Gallai cynllun dychwelyd poteli gwydr arwain at 'brisiau uwch i ddefnyddwyr'

poteliFfynhonnell y llun, Getty Images
GanHuw Thomas
Gohebydd busnes
  • Cyhoeddwyd

Gallai cynnwys poteli gwydr yng Nghynllun Dychwelyd Ernes Cymru gynyddu prisiau i ddefnyddwyr, yn ôl llythyr sydd wedi'i anfon gan benaethiaid busnesau diodydd, manwerthu a lletygarwch at y Prif Weinidog.

Mae'r llythyr yn nodi y gallai 'r bwriad i gynnwys gwydr yng Nghymru arwain at gostau ychwanegol, tra bod risg o dwyll posib o hyd at £300m os nad yw Cymru'n lansio'r system ar yr un pryd a gweddill y DU.

Dyw gwledydd eraill y DU ddim am fabwysiadu'r cynllun.

Mae'r sefydliadau hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i benodi gweinyddwr ar frys ar gyfer y cynllun ac yn rhybuddio y gallai Cymru fethu'r lansiad ffurfiol ym mis Hydref 2027.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn "adeiladu ar ein system ailgylchu sydd o'r radd flaenaf".

O dan gynlluniau'r DU, bydd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyflwyno cynllun blaendal sy'n cynnwys poteli plastig a chaniau metel o fis Hydref 2027 a bydd Cymru yn dilyn yr un amserlen.

Y nod yw lleihau sbwriel, hybu mwy o ailgylchu a chefnogi economi gylchol.

Mae cynrychiolwyr o'r diwydiant yn dweud eu bod eisoes wedi buddsoddi mwy na £1 biliwn i gefnogi cynllun y DU - a fydd yn cynnwys cyflwyno peiriannau i dderbyn y gwastraff i'w ailgylchu.

Ond mae penderfyniad Cymru i gynnwys gwydr yn achosi cryn bryder ymhlith cynrychiolwyr y diwydiant.

Yn y llythyr at Eluned Morgan AS, mae sefydliadau o'r sectorau diodydd meddal, manwerthu, lletygarwch, diodydd alcohol a dŵr potel yn dweud eu bod yn cefnogi cynllun unedig ledled y DU ar gyfer casglu poteli plastig a chaniau alwminiwm, ond maen nhw'n codi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad Cymru i gynnwys gwydr.

Mae'r llythyr yn tynnu sylw at y ffaith bod "92% o wydr cartrefi eisoes yn cael ei ailgylchu yng Nghymru" ac yn rhybuddio bod cynnwys gwydr yn peryglu "tarfu ar y systemau ailgylchu llwyddiannus presennol sydd eisoes yn gweithio'n dda".

Mae lleisiau'r diwydiant yn dadlau y byddai peiriannau sy'n derbyn gwydr yn cynyddu costau yn sylweddol - yn enwedig i siopau bach sydd yn brin o le.

gwydrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae peiriannau sy'n gallu derbyn gwydr yn fwy costus ac yn fwy swmpus na'r rhai ar gyfer poteli a chaniau plastig.

Dadl y diwydiant yw y byddai cost delio â gwydr ar wahân yng Nghymru - marchnad sy'n cynrychioli dim ond 4.6% o werthiant diodydd y DU - yn y pen draw, yn achosi prisiau uwch i ddefnyddwyr.

Cafodd y llythyr at Brif Weinidog Cymru ei lofnodi ar y cyd gan benaethiaid sefydliadau sy'n cynrychioli 9,000 o fusnesau yn y DU sef:

• Andy Bagnall, Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain

• David Harries, Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru

• Emma McClarkin, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain

• Helen Dickinson, Consortiwm Manwerthu Prydain

• Hetal Patel, Ffederasiwn y Manwerthwyr Annibynnol

• Kinvara Carey, Cymdeithas Dyfroedd Ffynhonnell Naturiol

• Kate Nicholls, Lletygarwch y DU

Mae'r llythyr yn rhybuddio os na fydd Cymru'n penodi gweinyddwr i'r cynllun "cyn gynted â phosibl", y gallai'r wlad fethu'r dyddiad lansio ar draws y DU ym mis Hydref 2027.

Mae'r oedi yn peryglu "bil twyll blynyddol o hyd at £300 miliwn" os yw pobl yn manteisio ar wahaniaethau rhwng cynllun Cymru a'r rhai sy'n gweithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ôl y cyrff.

Maen nhw'n dadlau y byddai'r risg o dwyll yn codi pe bai Cymru'r unig genedl yn y DU heb CDE a bod eitemau a brynir heb flaendal yn cael eu dychwelyd am flaendaliadau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

Maen nhw hefyd yn dweud y byddai cynllun blaendal gwydr yn arwain at bobl yn dod â photeli gwag dros y ffin o wledydd eraill y DU ac yn hawlio blaendal yn ôl, er nad ydyn nhw wedi prynu'r poteli yng Nghymru.

Mae yna bryderon gwirioneddol, meddir, "os na phenodir gweinyddwr yn fuan" a bod Cymru heb system weithredol, pan fydd gweddill y DU wedi dechrau ar y broses.

'Ffordd drawsnewidiol o leihau sbwriel'

Dywedodd Owen Derbyshire, prif swyddog gweithredol Cadwch Gymru'n Daclus: bod CDE yn "ffordd drawsnewidiol o leihau sbwriel".

"Ledled y byd, mae CDE yn aml yn gweithredu gyda chwmpasau gwahanol rhwng rhanbarthau, ac nid yw hynny wedi arwain at dwyll o'r raddfa sy'n cael ei awgrymu," meddai.

"Serch hynny, rydym yn cytuno ar yr angen i sicrhau rhyngweithrededd rhwng y cynlluniau ac i alinio'r dyddiadau lansio ar draws y DU. Mae'r rheoliadau eisoes yn rhoi amser i'r diwydiant addasu wrth i wydr gael ei gyflwyno'n raddol.

"Y risg wirioneddol fyddai pe na bai'r rheoliadau'n cael eu pasio o gwbl, gan arwain at gwymp y cynllun Cymreig a pheryglu'r broses o gyflwyno'r cynlluniau ar draws gweddill y DU."

Barn y pleidiau

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y risg o dwyll yn dod wrth i bobl yng Nghymru fynd â phlastig a chaniau i Loegr - os na fyddai cynllun wedi'i sefydlu yma - yn hytrach na phobl yn Lloegr yn dod â photeli gwydr gwag i Gymru.

"Roedd gosod Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru yn gam mawr tuag at roi terfyn ar ddiwylliant gwasraff," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae ein cynllun yn adeiladu ar ein system ailgylchu sydd o'r radd flaenaf ac yn tynnu ar arferion gorau yn fyd byd-eang er mwyn mynd i'r afael â sbwriel - a dechrau'r trawsnewid i ailddefnyddio.

"Mae penodi'r Sefydliad Rheoli Ernes yn benderfyniad allweddol ac rydym yn dilyn proses drylwyr, dryloyw i sicrhau y bydd y cynllun yn cyflawni i Gymru tra'n cefnogi rhyngweithrededd â chynlluniau eraill y DU.

"Dechreuodd y broses benodi ym mis Tachwedd, gydag ymgysylltiad helaeth â'r diwydiant."

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn "deall pryderon cyfreithlon y sector, yn enwedig busnesau bach yng Nghymru, ynghylch cael set wahanol o reoliadau yng Nghymru o gymharu â gweddill y DU".

"Credwn ei bod hi'n bwysig bwrw ymlaen â Chynllun Dychwelyd Ernes cyn gynted â phosibl," meddai'r blaid, gan ychwanegu mai "parhau gyda diodydd plastig a metel i ddechrau" a chynnwys gwydr pan fo hynny'n ymarferol, fyddai eu hateb.

Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd eu llefarydd yn San Steffan, David Chadwick AS: "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mewn datganoli ond nid mewn gwahaniaethu heb reswm da.

"Rydym yn glir, rydym yn gwrthwynebu ymdrechion Llafur Cymru i wahanu oddi wrth y DU ar y cynllun hwn - byddai'n hynod niweidiol i fusnesau Cymru ac ni fyddai budd amlwg.

"Mae busnesau bach yng Nghymru yn cael eu taro o bob cyfeiriad; y peth olaf sydd ei angen arnynt yw biwrocratiaeth ychwanegol sy'n anfanteisiol iddyn nhw o gymharu â gweddill y DU."

"Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod Cymru a gweddill y DU yn cytuno ar yr un cynlluniau dychwelyd ernes er mwyn osgoi dryswch, costau diangen, a sicrhau cysondeb i fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr," meddai llefarydd ar eu rhan.

Dywedodd y Gwyrddion fod rhaid i'r cynllun ddechrau "ar amser" ac i gynnwys "gwydr lle bo modd", gan symud y cyfrifoldeb am lygredd sbwriel i'r cynhyrchwyr.

Mae Reform UK wedi cael cais i ymateb.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now