Pwytho enwau Cymraeg Eryri ar garthenni i'w diogelu at y dyfodol

Mae Anna Pritchard wedi gwehyddu pum carthen wlân gydag enwau lleoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri arnyn nhw
- Cyhoeddwyd
Mae carthenni gwlân arbennig sy'n cynnwys enwau lleoedd yn Eryri wedi eu creu fel rhan o gynllun i ddiogelu enwau Cymraeg yr ardal.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn casglu detholiad o enwau tirweddol yn sgîl pryder dros eu colli.
Drwy gyfres o weithdai mewn cymunedau hyd a lled Eryri, mae'r awdurdod wedi casglu dros 6,500 o enwau lleoedd, nentydd, afonydd a mwy dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf.
Mae'r awdurdod hefyd wedi comisiynu dylunydd tecstilau i wehyddu pum carthen wlân gyda'r enwau wedi'u pwytho arnynt.
Yn ôl Naomi Jones o'r awdurdod, mae'r comisiwn yn ymdrech i roi cyfle i bobl gael "mwynhau a dysgu" am enwau'r lleoedd, ac yn y pendraw, eu defnyddio.

Mae'r awdurdod wedi cofnodi dros 6,500 o enwau, nad oedd cofnod swyddogol ohonynt gynt
Cafodd y gwehydd Anna Pritchard ei magu ar fferm odro yn ardal Dyffryn Ogwen, ac eglurodd ei bod hi'n gwybod pa mor bwysig yw "cadw'r tradoddiadau" a'r "hanes".
"Mae fy ngwaith fel arfer yn gofnod o hanesion a thraddodiadau ffermio – mae fy nheulu yn un o'r teuluoedd amaethyddol hynaf sy'n dal i weithio yn Nyffryn Ogwen.
"Dwi'n gwybod pa mor bwysig yw gwarchod yr hanes – dwi'n teimlo'n freintiedig dros ben fod y Parc wedi gofyn i mi wehyddu'r rhain," meddai.
Bu Anna, sydd bellach yn byw yn ardal Glasinfryn yng Ngwynedd, yn mynychu rhai o'r sesiynau 'galw i mewn' ei hun, lle cafodd wrando ar y gymuned a'r ffermwyr yn adrodd yr enwau lleoedd coll:
"Gatws Uffern... Cae Moch... mae'n bwysig dal arnyn nhw," meddai.
"Mae wedi cymryd dros flwyddyn i mi gynllunio'r pum carthen – roedd angen i mi ddewis fy hoff enwau o'r casgliad, ond hefyd gwneud fy ngwaith ymchwil arnynt.
"Dwi'n gwneud bob dim efo llaw – roedd pwytho pob enw yn cymryd o leiaf chwarter awr!" ychwanegodd.

Mae diogelu'r enwau yn gwella dealltwriaeth o'r ardal, meddai Naomi Jones
MaeCarthenni Enwau Lleoedd Eryri ar hyn o bryd yn cael eu harddangos yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog tan 15 Mawrth, ond y gobaith yw y bydd modd mynd â nhw ar daith.
Dywedodd Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Tir gydag Awdurdod y Parc: "'Dyn ni'n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl eu mwynhau [yr enwau], a chael dysgu amdanyn nhw.
"Mae 'na gyfoeth o enwau – enwau hardd iawn. Mae eu diogelu nhw'n un o'r ffyrdd y gallwn ni helpu i atgyfnerthu ein perthynas ni efo llefydd a bywyd gwyllt.
"Mae'n ffordd i ni gysylltu'n well efo llefydd, a rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut i ofalu am Eryri yn y dyfodol" meddai.
'Mae 'na bryder - ond nid i Gymru'n unig'
Dywedodd pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Dylan Foster Evans, bod yna bryder ynglŷn â cholli'r enwau, ond nid problem yng Nghymru yn unig yw hyn:
"Mae enwau'n newid dros amser, maen nhw'n cael eu hanghofio ond mae rhesymau gwahanol am hynny", meddai.
"Un o'r rhesymau yw pan fydd defnydd o'r tir yn newid - a sut y bydd pobl yn ymwneud â'r tir hwnnw.
"Ond wrth gwrs, mae 'na gwestiynau wedyn ynglŷn â'r enwau Saesneg bydd yn cael eu defnyddio i'w disodli." meddai.

Bydd y carthenni i'w gweld yn Rhuthun a Machynlleth yn ystod y flwyddyn
Ychwanegodd Dr Foster, sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Phanel Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg, bod Cymru'n llawer mwy "effro" erbyn hyn i bwysigrwydd gwarchod enwau lleoedd:
"At ei gilydd, mae'r ymwybyddiaeth wedi cynyddu yn sgîl trafodaethau diweddar - ac mae Cymdeithas Enwau Lleoedd wedi bod yn rhan bwysig o hynny," meddai.
Bydd y pum carthen yn cael eu harddangos yn Oriel Grefft Rhuthun o fis Gorffennaf ymlaen, cyn symud i oriel MOMA ym Machynlleth o fis Medi tan fis Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.