'Y sgiliau am ddiflannu' - 48% yn llai o brentisiaethau adeiladu

prentisiaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl un perchennog cwmni adeiladu, unwaith mae'r "pont sgiliau" rhwng y cenedlaethau yn diflannu gall y sgiliau gael eu colli am byth

  • Cyhoeddwyd

Ar Wythnos Genedlaethol y Prentisiaethau mae'r diwydiant adeiladu yn galw am wneud mwy i sicrhau fod pobl ifanc yn dilyn llwybr prentisiaethau.

Mae data diweddar gan Medr - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru -yn nodi y bu gostyngiad o 48% yn nifer y prentisiaethau adeiladu ym mis Mehefin y llynedd o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Wrth i 205 yn llai o brentisiaid ddechrau cyrsiau yn y cyfnod yma, dywed gweithwyr yn y diwydiant eu bod yn wynebu "diffyg argaeledd sgiliau".

Dileu prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a thoriadau i gyllideb y prentisiaethau sy'n gyfrifol am y gostyngiad, medd Medr.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r wythnos hon y bydd cyrsiau prentisiaethau newydd ar gyfer maes adeiladu ar gael yn ddiweddarach eleni.

gwaith adeiladuFfynhonnell y llun, PA Media

Yn ôl Ffederasiwn yr Adeiladwyr, bydd angen recriwtio 2,200 o weithwyr y flwyddyn er mwyn ateb y galw sy'n wynebu'r diwydiant ar hyn o bryd.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd cyfarwyddwr Ffederasiwn yr Adeiladwyr Gwledydd y DU a chyfarwyddwr Cymru, Ifan Glyn, bod y "boblogaeth sy'n gweithio mewn adeiladu yn heneiddio".

"Mae'n ddiwydiant sy'n ddibynnol iawn ar brentisiaethau ond rydyn ni hefyd yn sector lle mae rhan helaeth o'r cyflogwyr yn [gwmnïau] bach neu ganolig," meddai.

Yn ôl y data, dim ond un allan o 10 o gwmnïau sydd â mwy nag un prentis.

Dywedodd Mr Glyn bod digon yn cael eu hyfforddi ond "y broblem ydy dydyn nhw ddim yn cael eu troi'n weithwyr".

Esboniodd bod y "fiwrocratiaeth yn feichus iawn i gyflogwyr sydd am gynnig prentisiaeth a bod isafswm cyflog prentis wedi mynd i fyny 86%".

"Rydym felly yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gynnig mwy o gefnogaeth a chyllideb i gymell busnesau bach i gynnig prentisiaethau.

"Heb gefnogaeth llawer cryfach, bydd y gweithlu fydd ei angen i adeiladu tai newydd ac i wella'r stoc bresennol ddim yn bodoli."

'Denu prentisiaid yn mynd yn fwy anodd'

Un sy'n berchen cwmni adeiladu yw Huw Evans, sy'n gweithio yn ardal Tywyn ac Aberdyfi.

Yn ei farn ef, mae'n anodd cynnig cytundebau llawn amser i brentisiaid oherwydd y gost, ond dywed hefyd bod annog pobl ifanc i wneud prentisiaethau yn anodd.

"Mae trial denu prentisiaid yn mynd yn anoddach. Dwi'n 50 a weithiau dwi'n un o'r rhai ifanca' ar y job," meddai.

Dywedodd ei fod ef wedi cymryd blynyddoedd i ddatblygu'r sgiliau.

"Unwaith mae'r bont sgiliau rhwng y cenedlaethau yn cael ei thorri yna mae'r sgiliau'n diflannu," ychwanegodd.

Ryan Jones ac Elain JamesFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan ac Elain yn gwneud prentisiaethau ar hyn o bryd ac yn credu bod angen i'r cyfleoedd gael eu hyrwyddo'n well mewn ysgolion

Yn ôl Elain James, sy'n byw yn ardal Castellnewydd Emlyn, y gost uchel o fynd i'r brifysgol oedd un o'r rhesymau pam y gwnaeth hi benderfynu gwneud prentisiaeth.

"Mae'r costau o fynd i'r brifysgol mor uchel, ac oedd e ddim rili yn rhywbeth o'n i ishe talu amdano," meddai.

"Felly, o'n i'n meddwl bydde neud prentisiaeth yn rhatach, a thrwy 'neud prentisiaeth chi'n cael y profiad."

Fe wnaeth Ryan Jones o Goleg Menai ddechrau gwneud prentisiaeth plastro ar ôl cyfnod ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd mai newid i wneud prentisiaeth oedd un o'r "penderfyniadau gorau dwi wedi gwneud".

Mae'r ddau yn cytuno nad ydy'r cyfleoedd i wneud prentisiaeth yn cael eu hyrwyddo ddigon yn yr ysgol.

Mwy o brentisiaethau eleni

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r wythnos hon y bydd cyrsiau prentisiaethau newydd ar gyfer maes adeiladu ar gael yn ddiweddarach eleni.

Dywedon nhw y bydd yn helpu i "lenwi'r bylchau sgiliau a nodwyd gan y diwydiant".

Maen nhw'n dweud y bydd y cyrsiau lefel 2 newydd mewn gosod brics, gwaith coed ar safleoedd, sgaffaldio a chynnal a chadw adeiladu ar gael cyn hir.

Mae James Owen, prif swyddog gweithredol Medr, yn croesawu'r cyhoeddiad gan y bydd yn "diwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer llwybr hygyrch i yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant adeiladu".

Mae Colegau Cymru hefyd yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gydweithio â Medr er mwyn ailymrwymo rhaglen brentisiaethau newydd.

Mae angen darparu o leiaf 125,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bob oed dros dymor y Senedd nesaf, medd llefarydd.

Dywedodd Aled Jones-Griffith, prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, y bu newid i ofynion mynediad ar gyfer prentisiaid adeiladu yn 2022.

Yn ei ôl ef, does dim angen gwneud mwy o ran denu pobl i wneud prentisiaeth - mae'r galw yno, ond nid y gallu na'r cyllid.

"Base hi'n braf gweld y llywodraeth yn ymrwymo i ddarparu 125,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor nesa," ychwanegodd.

'Adweithiol yn hytrach na rhagweithiol'

Wrth ymateb i'r ffigyrau hefyd, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar AS fod cyhoeddiad y llywodraeth "i'w groesawu, ond mae'n adweithiol yn hytrach na rhagweithiol".

"Mae angen gwneud llawer mwy i ddarparu llwybrau clir ac ymarferol i bobl ifanc.

"Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu bod yn rhaid i bobl ifanc gael dewis gwirioneddol o lwybrau gyrfa, gan gynnwys prentisiaethau o ansawdd uchel, fel y gallan nhw gyrraedd eu potensial llawn a gall Cymru gadw'r sgiliau sydd eu hangen yma."

Dywedodd Plaid Cymru eu bod "yn croesawu cwrs prentisiaeth newydd yn lefel 2 adeiladu, ac yn gobeithio bydd hyn yn sicrhau datblygiad wrth fynd i'r afael â'r niferoedd llai o brentisiaid yn y maes adeiladu'n fwy cyffredinol".

"Mae Plaid Cymru yn glir fod prentisiaethau yn allweddol o ran yr agenda sgiliau yma yng Nghymru, i sicrhau fod gan fwy o bobl ifanc mynediad i lwybrau datblygiad a chyfleoedd hyfforddi, a hefyd i gwrdd â'r gofynion am weithwyr medrus sydd angen ar fusnesau Cymreig," meddai llefarydd.

"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynllunio ar gyfer twf drwy gefnogi mwy o bobl ifanc i addysg alwedigaethol, a thrwy ehangu prentisiaethau yn ystyrlon mewn sectorau sy'n hanfodol i ddyfodol Cymru – fel y sector adeiladu."

Yn ôl Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru, mae "angen gweld mwy o bwyslais ar brentisiaethau a sgiliau".

"Er y gallai prifysgol fod y llwybr cywir i rai pobl, mae llwybrau gyrfa gwerth chweil a phwysig ar gael trwy lwybrau eraill hefyd.

"Bydd Reform yn ceisio cael mwy o bobl ifanc i mewn i brentisiaethau."

Mae y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now