Prifysgol Abertawe yn bwriadu torri 55 o swyddi academaidd

Prifysgol AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Brifysgol Abertawe 1,043 o staff academaidd ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 55 o swyddi academaidd.

Mae'r cynigion yn effeithio ar dair ysgol y brifysgol - Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, a Gwyddoniaeth a Pheirianneg - ond nid yw'r brifysgol yn bwriadu cau unrhyw adran.

Mae 204 o rolau wedi cael gwybod eu bod mewn perygl, a'r bwriad yw y bydd y 55 o swyddi yn dod o'r rolau hyn.

Dywedodd y brifysgol y daw'r cynigion yn sgil "newidiadau sylweddol yng nghyd-destun recriwtio myfyrwyr rhyngwladol".

Ychwanegodd bod angen "gwneud arbedion i sicrhau ein cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol".

Mae gan Brifysgol Abertawe 1,043 o staff academaidd ar hyn o bryd.

Diswyddiadau gorfodol yw'r 'dewis olaf'

Mae'r brifysgol bellach yn ymgynghori ag undebau am y cynigion, ac yn dweud mai "dileu swyddi'n orfodol yw'r dewis olaf".

Maen nhw'n dweud eu bod yn "cynnig cyfle arall ar gyfer Cynllun Gadael yn Wirfoddol" i staff sydd mewn perygl.

"Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu profiad rhagorol a dysgu o ansawdd uchel i'n myfyrwyr, ac i gynnal ymchwil o safon fyd-eang," meddai llefarydd.

"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau na fydd unrhyw arbedion hanfodol yn effeithio'n niweidiol ar ein cenhadaeth graidd."

Dywedodd Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) mai dyma "bennod ddiweddaraf tair blynedd o doriadau sydd yn y degau o filiynau" gan y brifysgol.

"Ni ddylai staff dalu'r pris am ddegawdau o gamreoli ariannol ar draws y sector."

Ychwanegodd yr undeb eu bod wedi dechrau'r broses o gael barn aelodau am weithredu diwydiannol posib.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Trending Now