Cymeradwyo adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi

- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddarparu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys ail-leoli dysgwyr 11 i 18 oed i adeilad ysgol newydd gwerth £66m, ger Canolfan Hamdden Caergybi - a hynny'n amodol ar brynu'r tir.
Y nod yw cau cyfleusterau'r ysgol bresennol yn Nheras Alderley yn ystod Haf 2030 ac agor adeilad ysgol uwchradd newydd yn ystod Hydref 2030.
Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Môn, Aaron C Evans eu bod yn "hynod o falch" o gael "sêl bendith Llywodraeth Cymru".
"Mae creu adeilad ysgol modern a phwrpasol yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a'r dalgylch.
"Rydym yn grediniol y bydd y prosiect hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor addysg uwchradd yn lleol ac yn darparu mannau dysgu arbenigol o'r safon uchaf."
Yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Sir, Dylan J Williams mae'r datblygiad yma'n "garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i bobl ifanc yng Nghaergybi".
Ychwanegodd y bydd y cynlluniau newydd yma'n "sicrhau fod y cyfleusterau a'r cyfleoedd gorau ar gael i ddisgyblion".
Bydd nawr angen i Gyngor Môn ddilyn y broses gynllunio statudol cyn cael dechrau ar y gwaith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth

- Cyhoeddwyd4 Mawrth

- Cyhoeddwyd8 Chwefror
