Ben Cabango: 'Swrreal i fod mas yn Euro 2020'

Bum mlynedd yn ôl roedd Ben Cabango yn gwylio gemau Cymru yn Euro 2016 yn yr ardal cefnogwyr yng Nghaerdydd.

Mae e nawr yn y garfan ar gyfer Euro 2020!

Tipyn o dro ar fyd i'r pêl-droediwr ifanc, ac mae'n deg dweud ei fod yn edrych ymlaen yn arw at y profiad.

Dywedodd fod ysbryd y garfan yn dda, a'u bod yn gobeithio am bethau mawr.

Bu'n siarad gyda Dylan Griffiths yn Baku, Azerbaijan, lle bydd Cymru'n wynebu'r Swistir yn eu gêm gyntaf ddydd Sadwrn.

Trending Now