Y Gwobrau
Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu’r pethau gwych mae pobl yn eu cyflawni i wneud ein cymunedau’n lleoedd gwych i fyw ynddynt.
Mae'r cyfnod enwebu wedi dod i ben.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a bydd gwobrau’n cael eu rhoi yn yr wyth categori canlynol:
- Gwobr Gwirfoddoli
- Gwobr Arwr Ifanc
- Gwobr Cymydog Arbennig
- Gwobr Actif
- Gwobr Anifeiliaid
- Gwobr Amgylcheddol
- Gwobr Codi Arian
- Gwobr Grŵp Cymunedol
Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod ddechrau’r haf a byddant yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo ym mis Medi. Cliciwch yma i weld rheolau’r gwobrau a’n hysbysiad preifatrwydd yn llawn.
Dilynwch hynt y gwobrau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #BBCGwneudGwahaniaeth
Cliciwch i enwebu

Gwobr Gwirfoddoli
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.

Gwobr Arwr Ifanc
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl ifanc dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
Gwobr Actif
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.





