Main content

Coginio ar y fferm ger Llanbed

Gareth Richards o Lanbed sy'n sôn am ei lyfr newydd o ryseitiau, Goreuon Cegin Gareth. Gareth Richards from Lampeter chats about his new book, Gareth's Kitchen Best.

Gareth Richards o Lanbedr-Pont-Steffan sy'n sôn am sefydlu cegin lwyddiannus ar glos y fferm, a hefyd am ei lyfr newydd o ryseitiau, Goreuon Cegin Gareth.

Hefyd, Megan Williams sy'n ymweld â bwyty'r Barbican yn Sir Gaerfyrddin, sydd newydd symud i gyrion tref Cydweli.

Cyfle hefyd i glywed am ddatblygiadau Fferm Lletty Twppa ger Llanbed, fydd yn cynnig pob math o gyrsiau amaethyddol i fyfyrwyr yr hydref hwn.

Y newyddion diweddaraf o ran y grantiau a'r polisiau amaethyddol gyda'r gyfreithwraig, Awel Mai Hughes, a'r Athro Prysor Williams o Brifysgol Cymru Bangor sy'n darllen drwy'r straeon amaethyddol yn y wasg.

16 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 8 Chwef 202615:30

Darllediadau

  • Sul 8 Chwef 202607:00
  • Sul 8 Chwef 202615:30