Episode details

Available for 17 days
Gareth Richards o Lanbedr-Pont-Steffan sy'n sôn am sefydlu cegin lwyddiannus ar glos y fferm, a hefyd am ei lyfr newydd o ryseitiau, Goreuon Cegin Gareth. Hefyd, Megan Williams sy'n ymweld â bwyty'r Barbican yn Sir Gaerfyrddin, sydd newydd symud i gyrion tref Cydweli. Cyfle hefyd i glywed am ddatblygiadau Fferm Lletty Twppa ger Llanbed, fydd yn cynnig pob math o gyrsiau amaethyddol i fyfyrwyr yr hydref hwn. Y newyddion diweddaraf o ran y grantiau a'r polisiau amaethyddol gyda'r gyfreithwraig, Awel Mai Hughes, a'r Athro Prysor Williams o Brifysgol Cymru Bangor sy'n darllen drwy'r straeon amaethyddol yn y wasg.
Programme Website