Cyfrol newydd o farddoniaeth; nofel newydd gan awdur newydd, yr artist Glyn Griffiths a sioe lwyfan newydd i famau
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Ac mae hi'n raglen amrywiol iawn ei phynciau heddiw wrth i Manon ymweld â bydoedd llenyddiaeth, theatr, celf gweledol a barddoniaeth.
Mae'r awdur, dramodydd a'r bardd o Gaerdydd, Nia Morais newydd gyhoeddi ei chyfrol o farddoniaeth ac mae yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs.
Newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf mae Rhian Sion o Benarth hefyd, tra bod Glyn Griffiths yn trafod ei waith fel artist a'r cysur mae'n gael wrth greu.
Ac yna yn olaf, mae'r dramodydd a'r actores o Sir Benfro, Ceri Ashe yn sgwrsio am greu drama lwyfan sy'n trafod y profiad o fod yn fam.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediadau
- Dydd Sul13:00BBC Radio Cymru
- Ddoe18:00BBC Radio Cymru
