Episode details

Radio Cymru,08 Mar 2026,56 mins
Cyfrol newydd o farddoniaeth; nofel newydd gan awdur newydd, yr artist Glyn Griffiths a sioe lwyfan newydd i famau
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 24 days
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Ac mae hi'n raglen amrywiol iawn ei phynciau heddiw wrth i Manon ymweld â bydoedd llenyddiaeth, theatr, celf gweledol a barddoniaeth. Mae'r awdur, dramodydd a'r bardd o Gaerdydd, Nia Morais newydd gyhoeddi ei chyfrol o farddoniaeth ac mae yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs. Newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf mae Rhian Sion o Benarth hefyd, tra bod Glyn Griffiths yn trafod ei waith fel artist a'r cysur mae'n gael wrth greu. Ac yna yn olaf, mae'r dramodydd a'r actores o Sir Benfro, Ceri Ashe yn sgwrsio am greu drama lwyfan sy'n trafod y profiad o fod yn fam.
Programme Website