Sut ydych chi'n diffinio cynnyrch lleol?
Mae busnes yn caniatáu chi ddefnyddio eich pasion a'ch diddordeb a chyfrannu i gymdeithas
Mae'r cwmni heddiw, Geraint Hughes yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr.
Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithio’n agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru a’r DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heriau. Mae’n rhedeg cwmni Lafan sydd yn cyflogi nifer o bobol a'u pwrpas yw meithrin a chefnogi timau o bobl dalentog sydd am weld dyfodol gwell i ardaloedd gwledig Cymru.
Mae Geraint yn fab fferm o Ben Llŷn, ac mae'n sôn am ei fagwraeth hapus, ei deulu a'i ddiddordeb ifanc mewn tyfu llysiau.
Yn y darn bach yma mae’n trafod bod y farchnad bwyd yn un rhyngwladol wedi ei globileiddio - “ mae busnes yn caniatáu chi ddefnyddio eich pasion a'ch diddordeb a chyfrannu i gymdeithas. Mae byd busnes yn ddifyr iawn ac yn cynnig ffordd ‘mlaen…
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Beti a'i Phobol
![]()
" Ych chi'n credu mewn angylion? "
Hyd: 02:24
![]()
O ble ddaeth yr enw Ani Glass?
Hyd: 02:20





