Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Sut ydych chi'n diffinio cynnyrch lleol?

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Mae'r cwmni heddiw, Geraint Hughes yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr. Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithio’n agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru a’r DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heriau. Mae’n rhedeg cwmni Lafan sydd yn cyflogi nifer o bobol a'u pwrpas yw meithrin a chefnogi timau o bobl dalentog sydd am weld dyfodol gwell i ardaloedd gwledig Cymru. Mae Geraint yn fab fferm o Ben Llŷn, ac mae'n sôn am ei fagwraeth hapus, ei deulu a'i ddiddordeb ifanc mewn tyfu llysiau. Yn y darn bach yma mae’n trafod bod y farchnad bwyd yn un rhyngwladol wedi ei globileiddio - “ mae busnes yn caniatáu chi ddefnyddio eich pasion a'ch diddordeb a chyfrannu i gymdeithas. Mae byd busnes yn ddifyr iawn ac yn cynnig ffordd ‘mlaen…

Programme Website
More episodes
Trending Now