Main content

Pont: Kevin Davies

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Gwestai y bennod yma ydy Kevin Davies sydd yn byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn dysgu'r Gymraeg ers 2022.

Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.

Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.

Geirfa ar gyfer y bennod:-

anogaeth - encouragement
crwt - bachgen bach
ysu - to crave/yearn
cywilydd - shame
hiraeth - longing/ homesickness
dyhead - aspiration/desire
ysfa - desire/craving
diwyd - diligent
amhrisiadwy - priceless
ymroi - to commit/devote oneself

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

22 o funudau

Dan sylw yn...

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar BBC Radio Cymru,

Podlediad