Episode details

Available for over a year
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd. Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst. Geirfa ar gyfer y bennod:- anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself
Programme Website