Diweddarwyd y dudalen: 20 Awst 2020
Wrth sĆ“n am ābersonoleiddioā, rydym yn golygu:
- Argymell pethau rydyn niān meddwl y byddwch chiān eu hoffi
- Cofio pa mor bell aethoch chi drwy raglen (fel y gallwch ailddechrau lleār oeddech wedi gorffen)
- Rhoi hysbysiadau i chi am bethau rydych chiān eu mwynhau.
Cyn y gallwn ni wneud hynny, mae angen i ni ddeall sut rydych chiān defnyddio'r BBC, drwy edrych ar bethau fel yr erthyglau rydych chiān eu darllen a'r rhaglenni rydych chiān eu gwylio.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n casglu data amdanoch chi.
Sut i ddiffodd personoleiddio
Gallwch ddiffodd āCaniatĆ”u personoleiddioā yng ngosodiadau eich cyfrif BBC.
Beth sy'n digwydd os byddwch yn diffodd personoleiddio?
- Ni fyddwch chiān cael argymhellion personol yn seiliedig ar bethau rydych chi wedi eu gwylio ac wedi gwrando arnyn nhw.
- Ni fyddwch chi'n gallu cofrestru i dderbyn cylchlythyrau'r BBC wedi eu personoleiddio. Os ydych chi wedi cforestru eisoes, byddwch chi'n stopio eu derbyn.
- Ni fyddwn niān cofio pa mor bell oeddech chi wedi mynd drwy raglen neu glip fideo. Felly, ni fyddwch chiān gallu rhoi saib ar sioeau ac ailddechrau gwylio neu wrando yn ddiweddarach o lle'r oeddech chi wedi cyrraedd.
- Byddwch yn dal i allu 'ychwanegu' pethau at eto, cael hysbysiadau, rhoi sylwadau ar straeon, a phleidleisio ar sioeau fel Strictly Come Dancing.
Sut i wneud yn siŵr bod eich gosodiad personoleiddio yn cael ei ddiweddaru ym mhob man
Pan fyddwch chiān newid eich gosodiad personoleiddio, mae'n diweddaru ar unwaith ar y porwr gwe rydych chiān ei ddefnyddio. Ond ni fydd yn cael ei ddiweddaru ar unwaith ar unrhyw borwr, dyfais nac ap BBC arall a ddefnyddiwch. Felly, unwaith y byddwch chi wedi newid y gosodiad mewn un porwr...
- Ar unrhyw borwr gwe arall rydych chiān ei ddefnyddio, gan gynnwys ar ddyfeisiau gwahanol, bydd angen i chi allgofnodi a mewngofnodi eto
- Ar unrhyw ap BBC ar eich ffƓn neu gyfrifiadur tabled, bydd angen i chi allgofnodi a mewngofnodi eto, yna cau'r ap yn llawn a'i agor eto.
A yw diffodd personoleiddio yr un fath â diffodd cwcis?
Na, maen nhwān bethau ar wahĆ¢n. Cewch ragor o wybodaeth am gwcis ar y BBC yma.
A yw diffodd personoleiddio yr un fath â diffodd hysbysiadau?
Na, maen nhw'n bethau ar wahân. Er mwyn diffodd yr hysbysiadau, cliciwch y gloch a newid gosodiadau eich hysbysiadau yno, neu ewch i osodiadau eich ap.
