Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ethanol a sbectrosgopeg [TGAU Cemeg yn unig]Alcoholau

Mae ethanol, methanol a phropanol yn fathau o alcohol. Rydyn ni’n eu defnyddio nhw fel tanwyddau a hydoddyddion, ac mae ethanol hefyd i’w gael mewn diodydd alcoholig. Byddwn ni hefyd yn sôn am sbectrosgopeg isgoch ar gyfer disgyblion haen uwch.

Part of CemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Alcoholau

Mae’r alcoholau’n o â’r fformiwla gyffredinol:

CnH2n+1OH

Maen nhw i gyd yn cynnwys y –OH, a hwn sy’n gyfrifol am briodweddau alcoholau.

Mae enwau alcoholau’n diweddu ag ‘ol’, er enghraifft ethanol.

Y tri alcohol cyntaf yn y gyfres homologaidd yw methanol, ethanol a phropanol. Maen nhw’n iawn, sy’n golygu eu bod nhw’n ddefnyddiol fel tanwyddau. Rydyn ni hefyd yn eu defnyddio nhw fel mewn marcwyr, meddyginiaethau, a chosmetigau (fel diaroglyddion a phersawrau).

Ethanol yw’r alcohol sydd mewn diodydd alcoholig fel gwin a chwrw. Rydyn ni’n cymysgu ethanol â phetrol i’w ddefnyddio fel tanwydd.

Dynes yn llenwi ei char o bwmp biodanwydd

Dyma enwau ac adeileddau’r alcoholau symlaf:

Tabl yn dangos nifer yr atomau carbon, y fformiwla foleciwlaidd a'r fformiwla adeileddol ar gyfer methanol, ethanol, propan-1-ol, propan-2-ol, bwtan-1-ol a bwtan-2-ol.
Trending Now