Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ethanol a sbectrosgopeg [TGAU Cemeg yn unig]Sbectrosgopeg isgoch [Uwch – TGAU Cemeg]

Mae ethanol, methanol a phropanol yn fathau o alcohol. Rydyn ni’n eu defnyddio nhw fel tanwyddau a hydoddyddion, ac mae ethanol hefyd i’w gael mewn diodydd alcoholig. Byddwn ni hefyd yn sôn am sbectrosgopeg isgoch ar gyfer disgyblion haen uwch.

Part of CemegOlew crai, tanwyddau a chemeg organig

Sbectrosgopeg isgoch [Haen uwch – TGAU Cemeg yn unig]

Os wyt ti’n anfon pelydriad isgoch drwy gemegyn organig, mae’n amsugno rhai tonfeddi o’r pelydriad isgoch.

Gallwn ni ddangos y wybodaeth hon fel cyfres o frigau a chafnau ar sbectrwm isgoch. Mae safle’r brigau a’r cafnau’n gallu dweud wrthyt ti pa fondiau cemegol sydd fwyaf tebygol o fod yn y cyfansoddyn wrth edrych ar rif ton pob brig.

Dyma rai enghreifftiau cyffredin.

Ethan

Graff yn dangos sbectrwm isgoch ethan.

Mae’r brig cryfaf yma o gwmpas 2,950 cm–1. Mae’r rhif ton hwn yn dynodi presenoldeb bondiau C–H, sef y prif fath o fond mewn ethan.

Ethen

Graff yn dangos sbectrwm isgoch ethen.

Mae sbectrwm ethen hefyd yn dangos amsugniad cryf o gwmpas 3,000 cm–1, sydd eto’n dangos bondiau C–H. Mae’r brig arall o ddiddordeb yma o gwmpas 1,500 cm–1, sy’n dynodi presenoldeb bond dwbl carbon–carbon (C=C).

Ethanol

Graff yn dangos sbectrwm isgoch ethanol.

Mae sbectrwm ethanol yn dangos mwy o nodweddion diddorol. Mae brig llydan, crwn iawn o gwmpas 3,400 cm–1, sy'n dynodi presenoldeb bond O–H. Mae brig hefyd o gwmpas 1,100 cm–1, sy'n dynodi presenoldeb bond C-O.

Asid ethanöig

Graff yn dangos sbectrwm isgoch asid ethanöig.

Yn olaf, mae sbectrwm asid ethanöig hefyd yn cynnwys brig llydan iawn o gwmpas 3,100 cm–1, sy’n debyg i frig ethanol sy’n dangos bod bond O–H ynddo. Mae ganddo frig o gwmpas 1,300 cm–1, sy'n dangos bod ganddo fond C-O, ond mae ganddo hefyd amsugniad cryf iawn o gwmpas 1,700 cm–1. Y brig hwn sy’n dynodi bod asid ethanöig yn cynnwys bond dwbl C=O.

Os cei di wybodaeth am y gwahanol frigau, bydd disgwyl i ti allu defnyddio’r wybodaeth honno i ddehongli sbectrwm isgoch o gyfansoddyn penodol.

Tabl gyda dwy golofn o'r enw Bond a Rhif ton (cm-1).
Trending Now