Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Elfennau, cyfansoddion a fformiwlâuAtomau a moleciwlau

Golwg gyffredinol ar y diffiniadau o wahanol fathau o gemegion, sut gallwn ni gynrychioli cemegion mewn hafaliadau cemegol, sut gallwn ni wahanu cemegion, a nifer o gyfrifiadau pwysig sy'n ymwneud â fformiwlâu cemegol.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Atomau a moleciwlau

Mae’r holl fater yn y bydysawd wedi’i wneud o wahanol ronynnau. Wrth astudio cemeg, mae angen i ni wybod am ddau brif fath o ronyn.

Atom

  • Y gronyn lleiaf mewn .
  • Yn wreiddiol, roedd gwyddonwyr yn meddwl ei bod hi’n amhosibl hollti atomau, ond dydy hynny ddim yn wir.

Moleciwl

  • Clwstwr o atomau anfetel sydd wedi bondio’n gemegol â’i gilydd.
  • sy’n uno’r atomau mewn moleciwl.
  • Mae’r atomau bob amser yn uno mewn cymarebau penodol, ac mae gan foleciwlau fformiwla benodol, er enghraifft H2O neu N2.
  • Mae yna foleciwlau o (fel CH4) a moleciwlau o elfennau (fel O2).

Pan mae atomau a moleciwlau’n colli neu’n ennill electronau, maen nhw’n ffurfio ïonau.

Ïon

Gronyn â gwefr drydanol yw ïon, ac mae’n ffurfio wrth i atom neu foleciwl golli neu ennill electronau.

  • Pan mae atom/moleciwl yn colli electron(au), mae’n ffurfio ïon â gwefr bositif.
  • Pan mae atom/moleciwl yn ennill electron(au), mae’n ffurfio ïon â gwefr negatif.
  • Mae maint y wefr ar yr ïon yn hafal i nifer yr electronau sydd wedi’u colli neu eu hennill.
Pedwar diagram yn dangos: Atomau o elfen; Moleciwlau o elfen; Moleciwlau o gyfansoddyn; ac Atomau a moleciwlau o elfen a chyfansoddyn.
Trending Now