Elfennau, cyfansoddion a fformiwlâuFfurfio fformiwlâu ïonig

Golwg gyffredinol ar y diffiniadau o wahanol fathau o gemegion, sut gallwn ni gynrychioli cemegion mewn hafaliadau cemegol, sut gallwn ni wahanu cemegion, a nifer o gyfrifiadau pwysig sy'n ymwneud â fformiwlâu cemegol.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Ffurfio fformiwlâu ïonig

Pan mae metelau’n adweithio ag anfetelau, mae yn cael eu trosglwyddo o’r atomau metel i’r atomau anfetel, gan ffurfio . Enw’r math hwn o gyfansoddyn yw .

Mae adweithiau rhwng metelau ac anfetelau’n cynnwys:

  • sodiwm + clorin → sodiwm clorid
  • magnesiwm + ocsigen → magnesiwm ocsid
  • calsiwm + clorin → calsiwm clorid
  • potasiwm + ocsigen → potasiwm ocsid
  • alwminiwm + ocsigen → alwminiwm ocsid

Does dim angen manylion am sut mae ïonau’n ffurfio yn y testun hwn. Yn Uned 1 mae disgwyl i ti allu defnyddio’r tabl o ïonau cyffredin i ganfod yr ïonau sy’n bresennol mewn cyfansoddyn ac yna llunio fformiwla’r cyfansoddyn o’r ïonau.

Sodiwm clorid

  • Canfod yr ïonau – mae sodiwm clorid yn cynnwys ïonau sodiwm (Na+) ac ïonau clorid (Cl-).
  • Canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Mae hyn yn golygu bod angen yr un nifer o wefrau positif ag o wefrau negatif. Gan fod gan y sodiwm un wefr bositif a’r clorid un wefr negatif, dim ond un o bob un sydd ei angen i ganslo’r gwefrau.
  • Llunio’r fformiwla – mae angen un o bob ïon. Mae hyn yn arwain at fformiwla o NaCl.

Weithiau mae fformiwla ïonig yn cynnwys ïonau cyfansawdd – grŵp o atomau sy’n bondio â’i gilydd, â gwefr gyffredinol.

Magnesiwm hydrocsid

  • Canfod yr ïonau – mae magnesiwm hydrocsid yn cynnwys ïonau magnesiwm (Mg2+) ac ïonau hydrocsid (OH-).
  • Canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm gwefr cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Yn yr achos hwn, mae gan fagnesiwm ddwy wefr bositif sy’n golygu bod angen dau grŵp hydrocsid i ganslo’r gwefrau’n llwyr.
  • Llunio’r fformiwla – mae angen un ïon magnesiwm a dau ïon hydrocsid. Gan fod ïonau hydrocsid wedi’u gwneud o grŵp o atomau, rhaid i ni eu rhoi nhw mewn cromfachau yn y fformiwla. Mae hyn yn arwain at fformiwla o Mg(OH)2.

Dyma ïonau cyfansawdd eraill sy’n cael eu defnyddio:

  • carbonad (CO32-)
  • sylffad (SO42-)
  • nitrad (NO3-)
  • amoniwm (NH4+)

Haearn(III) ocsid

Yn gyntaf, rhaid adnabod yr ïonau – mae haearn(III) ocsid yn cynnwys ïonau haearn(III) (Fe3+) ac ïonau ocsid (O2-).

Nesaf, rhaid canslo’r gwefrau – rhaid i gyfanswm gwefr cyfansoddyn ïonig fod yn sero. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael yr un nifer o wefrau positif ag o wefrau negatif. Gan fod gan yr haearn dair gwefr bositif a’r ocsid ddwy wefr negatif, yr unig ffordd o ganslo’r gwefrau yw cael chwech o bob un. Mae hyn yn golygu bod angen dau ïon haearn a thri ïon ocsid.

Enghraifft

Diagram i ddangos sut mae dau ïon haearn (III) a thri ïon ocsid yn canslo'r gwefrau mewn haearn (III) ocsid.

Yn olaf, rhaid llunio’r fformiwla – mae angen dau ïon haearn a thri ïon ocsid. Mae hyn yn arwain at fformiwla o Fe2O3.

Dydy gwefrau’r ïonau yn fformiwla’r cyfansoddyn ddim yn cael eu hysgrifennu. Mae nifer yr ïonau o bob elfen yn cael ei ysgrifennu fel rhif ar ôl y symbol atomig.

Trending Now