Postgyfuno
Mae postgyfuno yn nodwedd prosesu geiriau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr bersonoleiddio llythyrau gydag enwau a chyfeiriadau o cronfa ddataStorfa ddata sydd wedi’i chynllunio mewn ffordd drefnus, i’w gwneud hi’n haws i ni chwilio am y wybodaeth sydd ei hangen..
Y pum prif gam wrth greu llythyr ar gyfer postgyfuno yw:
- creu’r gronfa ddata gyda maesElfen o gofnod cronfa ddata lle mae un darn o wybodaeth yn cael ei storio. Er enghraifft, 'enw' mewn llyfr cyfeiriadau electronig. ar gyfer enwau a chyfeiriadau’r bobl i anfon y llythyr atynt
- ysgrifennu’r llythyr gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau a chysylltu’r llythyr â’r gronfa ddata
- defnyddio ymholiadChwiliad neu gwestiwn sy’n cael ei ofyn mewn cronfa ddata. i ganfod is-set o bobl berthnasol ac anfon llythyr wedi’i dargedu atyn nhw
- gan ddefnyddio’r dewin postgyfuno, rhowch godau yn y llythyr lle dylai enw a chyfeiriad y cwsmeriaid ymddangos
- postgyfuno, gan gymryd y dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. o’r gronfa ddata a’u rhoi yn y llythyrau, i gynhyrchu un llythyr ar gyfer pob person sydd yn yr is-set o bobl berthnasol o’r gronfa ddata
Manteision
- Mae’n bosibl ysgrifennu un llythyr safonol a’i anfon at bob cwsmer heb orfod ychwanegu pob enw a chyfeiriad â llaw.
- Mae’n bosibl personoli’r llythyr – mae’n edrych fel pe bai’r llythyr wedi cael ei ysgrifennu at yr unigolyn.
- Mae’n ffordd gyflym iawn o gynhyrchu cannoedd o lythyrau wedi’u personoli.
Anfanteision
- Gall llythyrau golli’r cyffyrddiad personol.
- Rhaid cadw’r gronfa ddata sy’n darparu’r wybodaeth ar gyfer y llythyr postgyfuno yn gyfredol er mwyn iddi fod yn ddefnyddiol.