Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Meddalwedd CBG, Prosesu geiriau a ChyflwynoMeddalwedd cyflwyno

Mae prosesyddion geiriau yn fath o raglen feddalwedd sy’n cael ei defnyddio i gyfansoddi, fformatio a golygu dogfennau.

Part of TGChMeddalwedd rhaglenni

Meddalwedd cyflwyno

Mae’r rhan fwyaf o’r pecynnau meddalwedd cyflwyno yn caniatáu i ti greu cynnyrch amlgyfrwng drwy ddefnyddio cyfres o sleidiau. Mae’n bosibl cyfuno testun, delweddau, fideo, animeiddiadau, cysylltau a sain ar bob sleid i greu cynnyrch terfynol soffistigedig.

Y meddalwedd cyflwyno sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf yw Microsoft PowerPoint ond mae meddalwedd cyflwyno arall ar gael, er enghraifft Impress (rhan o gyfres OpenOffice).

Nodweddion cyffredin meddalwedd cyflwyno

Meddalwedd cyflwyno yn cael ei defnyddio i ddangos perfformiad gweithwyr.
  • Sleidiau sy’n cynnwys unrhyw gymysgedd o destun, delweddau, fideo, animeiddiadau, cysylltau a sain.
  • Effeithiau animeiddio sy’n caniatáu i’r elfennau amrywiol ar bob sleid ymddangos ar Ă´l cyfnod penodol neu pan fydd cyflwynydd yn pwyso botwm.
  • Meistr sleid – mae hyn yn caniatáu i ti bennu arddull (, maint y ffont, y cefndir, ac yn y blaen) unwaith a defnyddio’r dewisiadau hyn wedyn drwy gydol y cyflwyniad.
  • Trawsnewid – dyma sut mae’r feddalwedd cyflwyno yn “symud” o un sleid i’r llall. Fel arfer mae trawsnewid yn golygu toddi o un sleid i’r un nesaf, neu symud y sleid gyfredol i ffwrdd mewn rhyw ffordd i ddangos y sleid nesaf fel petai oddi tani.
  • Nodiadau sleidiau – pan mae’r rhain yn cael eu defnyddio bydd y cyflwynydd yn gweld y sleid gyfredol ac unrhyw nodiadau sy’n gysylltiedig â hi ar ei sgrin ef/hi a bydd y gynulleidfa’n gweld y sleid yn unig ar sgrin arall neu o daflunydd.
Trending Now