Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Grŵp 0 a phrofi ïonauProfi am ïonau a nwyon

Rydyn ni'n defnyddio profion fflam i adnabod ïonau'r metelau alcali mewn cyfansoddion. Mae'r nwyon nobl yn anadweithiol iawn.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Profi am ïonau a nwyon

Yn aml, bydd gofyn i gemegwyr brofi sampl o sylwedd i ganfod a yw’n cynnwys neu penodol. Mae amrywiaeth o dechnegau ar gael i wneud hyn.

Profi am ïonau – profion fflam

Gallwn ni ddefnyddio prawf fflam i ganfod presenoldeb ïon metel alcali.

Sampl yn cael ei ddal mewn llosgydd Bunsen ac yn llosgi'n goch.
Figure caption,
Rydyn ni’n rhoi gwifren prawf fflam lân, laith mewn sampl solid o’r cyfansoddyn. Yna, rydyn ni’n ei rhoi hi i mewn i ymyl fflam Bunsen las. Mae lliw’r fflam sy’n cael ei chynhyrchu’n dangos pa ïon metel sy’n bresennol yn y cyfansoddyn.

Lliwiau fflamau a’r ïon metel maen nhw’n ei gynrychioli

Lliw’r fflamÏon sy’n bresennol
CochLithiwm, Li+
Melyn-orenSodiwm, Na+
LelogPotasiwm, K+
Lliw brics cochCalsiwm, Ca2+
Lliw gwyrdd afalBariwm, Ba2+
Lliw’r fflamCoch
Ïon sy’n bresennolLithiwm, Li+
Lliw’r fflamMelyn-oren
Ïon sy’n bresennolSodiwm, Na+
Lliw’r fflamLelog
Ïon sy’n bresennolPotasiwm, K+
Lliw’r fflamLliw brics coch
Ïon sy’n bresennolCalsiwm, Ca2+
Lliw’r fflamLliw gwyrdd afal
Ïon sy’n bresennolBariwm, Ba2+
Trending Now