Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Grŵp 0 a phrofi ïonauProfi am ïonau halid

Rydyn ni'n defnyddio profion fflam i adnabod ïonau'r metelau alcali mewn cyfansoddion. Mae'r nwyon nobl yn anadweithiol iawn.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Profi am ïonau halid

Yr halogenau yw’r yn Grŵp 7 y . Halogenau yw clorin, bromin ac ïodin. Rydyn ni’n galw ïonau’r halogenau yn ïonau halid, er enghraifft clorid, Cl.

Rydyn ni’n defnyddio hydoddiannau arian nitrad i adnabod ïonau halid mewn hydoddiannau. Rydyn ni’n asidio’r hydoddiant prawf â rhai diferion o asid nitrig gwanedig, ac yna’n ychwanegu rhai diferion o hydoddiant arian nitrad. Mae arian halid â gwahanol liwiau’n ffurfio, gan ddibynnu pa ïonau halid sy’n bresennol:

  • mae ïonau clorid yn rhoi gwaddod gwyn o arian clorid
  • mae ïonau bromid yn rhoi gwaddod hufen o arian bromid
  • mae ïonau ïodid yn rhoi gwaddod melyn o arian ïodid
3 thiwb profi wedi’u labelu A, B, C yn dangos y tri lliw gwahanol o waddod. Mae A yn wyn ar gyfer clorid, mae B yn lliw hufen ar gyfer bromid, ac mae C yn felyn ar gyfer iodid.
Figure caption,
Lliwiau gwaddodion arian halid

Er enghraifft:

arian nitrad + sodiwm bromid → sodiwm nitrad + arian bromid

AgNO3(dyfr) + NaBr(dyfr) → NaNO3(dyfr) + AgBr(s)

Mae'n rhaid dysgu'r hafaliadau ïonig ar gyfer yr adweithiau hyn. Ar gyfer yr enghraifft uchod:

Ag+(dyfr) + Br(dyfr) → AgBr(s)

Un ffordd o gofio’r lliwiau yw meddwl ‘llaeth, hufen, menyn’ (gwyn, hufen, melyn).

Rydyn ni’n ychwanegu’r asid nitrig yn gyntaf i gael gwared ag unrhyw ïonau carbonad allai fod yn bresennol – byddai’r rhain yn cynhyrchu gwaddod gwyn o arian carbonad, gan roi canlyniad cadarnhaol anghywir ar gyfer ïonau clorid.

Trending Now