Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfres adweithedd metelauAdweithiau dadleoli ocsidau metel

Mae'r dull rydyn ni'n ei ddefnyddio i echdynnu metelau'n dibynnu ar adweithedd y metel. Mae'r gyfres adweithedd yn caniatáu i ni ragfynegi sut bydd metelau'n adweithio.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Adweithiau dadleoli ocsidau metel

Bydd metel mwy adweithiol yn metel llai adweithiol o . Mae’r yn enghraifft dda o hyn. Rydyn ni’n ei ddefnyddio i gynhyrchu haearn tawdd (hylifol) gwynias mewn lleoliadau anghysbell ar gyfer weldio. Mae angen llawer o wres i ddechrau’r adwaith (rydyn ni’n defnyddio ffiws magnesiwm, sy’n rhoi gwres i’r adweithyddion), ond yna mae’n rhyddhau swm anhygoel o wres sy’n ddigon i doddi’r haearn.

Diagram yn dangos ffiws o ruban magnesiwm a chymysgedd o bowdr alwminiwm a haearn(III) ocsid mewn bicer, o fewn bicer mwy o dywod, ar fat gwrthwres.

alwminiwm + haearn(III) ocsid → haearn + alwminiwm ocsid

2Al + Fe2O3 → 2Fe + Al2O3

Gan fod alwminiwm yn fwy adweithiol na haearn, mae’n dadleoli haearn o haearn(III) ocsid. Mae’r alwminiwm yn tynnu ocsigen o’r haearn(III) ocsid:

  • mae haearn(III) ocsid yn cael ei
  • mae alwminiwm yn cael ei

Mae’r adweithiau rhwng metelau ac ocsidau metel yn caniatáu i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau A, B ac C:

Metel AMetel BMetel C
A ocsidXDadleoli ADadleoli A
B ocsidDim adwaithXDim adwaith
C ocsidDim adwaithDadleoli CX
A ocsid
Metel AX
Metel BDadleoli A
Metel CDadleoli A
B ocsid
Metel ADim adwaith
Metel BX
Metel CDim adwaith
C ocsid
Metel ADim adwaith
Metel BDadleoli C
Metel CX
  • Dydy metel A ddim yn gallu dadleoli B nac C – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r lleiaf adweithiol a’i fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
  • Mae metel B yn dadleoli A a hefyd C – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r mwyaf adweithiol a’i fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
  • Mae metel C yn dadleoli A ond yn methu dadleoli C – felly mae’n rhaid ei fod yn fwy adweithiol nag A ond yn llai adweithiol na B, a’i fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.

Felly, y drefn yw:

Rhestr o lythrennau o'r mwyaf adweithiol i'r lleiaf adweithiol: B, C ac A,

Yn gyffredinol, y mwyaf yw’r gwahaniaeth rhwng adweithedd dau fetel mewn adwaith dadleoli, y mwyaf o egni sy’n cael ei ryddhau.

Mae alwminiwm yn llawer uwch na haearn yn y gyfres adweithedd, felly mae’r adwaith thermit yn rhyddhau llawer o egni. Mae magnesiwm yn uchel iawn yn y gyfres adweithedd, ac mae copr yn isel iawn – felly mae’r adwaith rhwng magnesiwm a chopr(II) ocsid yn fwy ffyrnig.

Trending Now