Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfres adweithedd metelauAdweithiau dadleoli hydoddiannau

Mae'r dull rydyn ni'n ei ddefnyddio i echdynnu metelau'n dibynnu ar adweithedd y metel. Mae'r gyfres adweithedd yn caniatáu i ni ragfynegi sut bydd metelau'n adweithio.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Adweithiau dadleoli hydoddiannau

Bydd metel mwy adweithiol yn metel llai adweithiol o hydoddiant o un o’i halwynau. Er enghraifft:

magnesiwm + copr(II) sylffad → copr + magnesiwm sylffad

Mg(s) + CuSO4(dyfr) → Cu(s) + MgSO4(dyfr)

Yn yr adwaith hwn, mae lliw glas y copr(II) sylffad yn pylu wrth iddo gael ei ddefnyddio (mae hydoddiant magnesiwm sylffad yn ddi-liw). Bydden ni hefyd yn gweld metel copr (solid coch/brown) yn ffurfio.

Diagram yn dangos bod rhoi magnesiwm mewn hydoddiant copr(II) sylffad glas a throi'r hydoddiant yn ffurfio hydoddiant magnesiwm sylffad di-liw a chopr.

Mae adweithiau rhwng metelau a hydoddiannau o halwynau metel yn caniatáu i ni roi detholiad o fetelau mewn cyfres adweithedd. Gan ddefnyddio metelau J, K ac L:

Metel JMetel KMetel L
J sylffadXDim adwaith i'w weldDim adwaith i'w weld
K sylffadDadleoli KXDadleoli K
L sylffadDadleoli LDim adwaith i'w weldX
J sylffad
Metel JX
Metel KDim adwaith i'w weld
Metel LDim adwaith i'w weld
K sylffad
Metel JDadleoli K
Metel KX
Metel LDadleoli K
L sylffad
Metel JDadleoli L
Metel KDim adwaith i'w weld
Metel LX

Rydyn ni’n arsylwi’r dadleoliad wrth i liw’r metel newid a/neu wrth i liw’r hydoddiant newid.

  • Mae metel J yn dadleoli K a hefyd L – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r mwyaf adweithiol a’i fod ar frig y gyfres adweithedd hon.
  • Dydy metel K ddim yn gallu dadleoli J nac L – felly mae’n rhaid mai hwn yw’r lleiaf adweithiol a’i fod ar waelod y gyfres adweithedd hon.
  • Mae metel L yn dadleoli K ond yn methu dadleoli J – felly mae’n rhaid ei fod yn fwy adweithiol na K ond yn llai adweithiol na J, a’i fod rhwng y ddau yn y gyfres adweithedd hon.

Felly, y drefn yw:

Rhestr o lythrennau o'r mwyaf adweithiol i'r lleiaf adweithiol: J, L a K.
Trending Now