Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y tabl cyfnodolGrwpiau a chyfnodau

Siart yw'r tabl cyfnodol sy'n dangos yr elfennau i gyd wedi'u trefnu yn ôl eu rhif atomig.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Grwpiau a chyfnodau

Mae’r holl wahanol wedi’u trefnu yn y tabl cyfnodol.

Dyma brif nodweddion y tabl:

  • enw’r rhesi llorweddol yw cyfnodau
  • enw’r colofnau fertigol yw grwpiau
  • mae elfennau yn yr un grŵp yn debyg i’w gilydd
  • mae’r metelau ar y chwith ac mae’r anfetelau ar y dde (mae hydrogen yn anfetel ond mae’n aml yn cael ei roi yn y canol)
  • mae’r prif grwpiau wedi’u rhifo o 1 i 7 o’r chwith i’r dde, a’r grŵp olaf ar y dde yw Grŵp 0
  • rydyn ni’n rhoi’r metelau trosiannol yn y bloc rhwng Grŵp 2 a Grŵp 3
  • dim ond dwy elfen sydd yng Nghyfnod 1 (hydrogen a heliwm)
Y tabl cyfnodol â llinell yn gwahanu'r metelau ar y chwith a'r anfetelau ar y dde.

Mae’r llinell igam-ogam yn y diagram hwn yn gwahanu’r metelau, ar y chwith, a’r anfetelau, ar y dde.

Metelau, nid anfetelau, yw’r rhan fwyaf o elfennau.

Mae gan bob elfen ei symbol cemegol ei hun, sydd wedi’i wneud o lythrennau. Dim ond elfennau sydd i’w gweld yn y tabl cyfnodol, byth . Er enghraifft, dydy sylweddau fel dŵr a chopr sylffad ddim yn y tabl cyfnodol, oherwydd cyfansoddion ydyn nhw.

Trending Now