Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Y tabl cyfnodolMetelau, anfetelau a meteloidau

Siart yw'r tabl cyfnodol sy'n dangos yr elfennau i gyd wedi'u trefnu yn ôl eu rhif atomig.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Metelau, anfetelau a meteloidau

Wrth symud o’r chwith i’r dde ar draws , mae’r yn mynd yn llai metelig. Mae hyn yn gysylltiedig â’r cynnydd yn nifer yr ym mhlisgyn allanol yr . Mae’r atomau’n mynd yn fwy tebygol o ennill neu rannu electronau, yn hytrach na’u colli nhw, wrth ffurfio .

Metelau

Mae metelau’n tueddu i rannu tebyg. Maen nhw i gyd yn trydan a gwres da ac maen nhw i gyd yn loyw (sgleiniog wrth gael eu torri). Mae’r rhan fwyaf o fetelau fel arfer yn rhannu’r priodweddau hyn:

  • ymdoddbwynt uchel
  • caled (anodd eu crafu)
  • hydrin (gallu cael ei guro i mewn i siâp)
  • hydwyth (gallu cael ei dynnu’n wifrau)

Mae rhai eithriadau i hyn. Er enghraifft, mae mercwri yn hylif ar dymheredd ystafell. Mae’r metelau yn Grŵp 1, fel lithiwm, sodiwm a photasiwm, i gyd yn feddal.

Diferion o fercwri hylifol
Image caption,
Diferion o fercwri hylifol

Anfetelau

Mae gan anfetelau amrywiaeth o briodweddau, ond ychydig iawn ohonynt sy’n dda am ddargludo trydan. Mae graffit (un o ffurfiau carbon) yn enghraifft brin o anfetel sy’n trydan yn dda iawn.

Mae gan lawer o anfetelau ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel. Pan mae anfetelau mewn cyflwr solid, maen nhw fel arfer yn frau felly alli di ddim eu curo nhw i mewn i siâp.

Meteloidau

Mae gan yr elfennau sydd rhwng y metelau a’r anfetelau yn y tabl cyfnodol briodweddau sy’n gymysgedd o briodweddau metelau ac anfetelau. Maen nhw'n cael eu galw’n meteloidau neu’n lled-fetelau. Mae’r elfennau hyn yn agos at y llinell igam-ogam sy’n gwahanu’r metelau a’r anfetelau.

Enghreifftiau o feteloidau

  • Carbon – solid pŵl, llwyd tywyll brau (priodweddau anfetelig) ond ymdoddbwynt uchel a dargludydd trydan a gwres (priodweddau metelig).
  • Silicon – solid llwyd sgleiniog, dargludydd trydanol ac ymdoddbwynt uchel (priodweddau metelig) ond brau iawn a dwysedd isel (priodweddau anfetelig).
Trending Now