Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Adeileddau a phriodweddauMoleciwlau cofalent syml

Mae mathau gwahanol o adeileddau yn digwydd o ganlyniad i fondio, gan effeithio ar briodweddau deunyddiau pob dydd.

Part of CemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Moleciwlau cofalent syml

Mae dau brif fath o sylweddau â :

  • moleciwlau cofalent syml
  • adeileddau cofalent enfawr

Dim ond ychydig o sydd mewn moleciwlau syml, ac mae bondiau cofalent yn eu dal nhw at ei gilydd. Un enghraifft yw carbon deuocsid (CO2). Yn y moleciwl, mae un atom carbon yn bondio â dau atom ocsigen.

Diagram dotiau a chroesau carbon deuocsid. Maen nhw'n rhannu dau grŵp o electronau, ac mae dau ddot a dwy groes ym mhob grŵp.

Fodd bynnag, er bod y bondiau cofalent sy’n dal yr atomau at ei gilydd mewn moleciwl syml yn gryf, mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd rhwng moleciwlau syml yn wan.

Priodweddau sylweddau moleciwlaidd syml

  • Ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel – mae hyn oherwydd nad oes angen llawer o egni i dorri’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan.
  • Ddim yn trydan – mae hyn oherwydd nad oes dim rhydd na gwefr drydanol gyffredinol mewn unrhyw gyflwr mater.

Mae hydrogen, amonia, methan a dŵr pur hefyd yn foleciwlau syml. Mae gan y rhain i gyd fondiau cofalent cryf rhwng atomau, ond grymoedd rhyngfoleciwlaidd llawer gwannach rhwng moleciwlau.

Pan mae un o’r sylweddau hyn yn ymdoddi neu’n berwi, y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan hyn sy’n torri, nid y bondiau cofalent cryf. Ar dymheredd ystafell, mae sylweddau moleciwlaidd syml yn nwyon, neu’n hylifau neu’n solidau ag ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau isel. Maen nhw hefyd yn feddal, eto oherwydd y grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan sy’n hawdd eu torri.

Mae’r lluniau’n dangos sut mae’r grymoedd rhyngfoleciwlaidd gwan rhwng moleciwlau dŵr yn cael eu torri wrth eu berwi neu eu hymdoddi:

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 2, Nifer mawr o foleciwlau dŵr, yn dangos y bondiau cofalent cryf rhwng yr atomau ocsigen a hydrogen ym mhob moleciwl, a'r grymoedd gwan rhwng y moleciwlau eu hunain.,
Trending Now