Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Adeileddau a phriodweddauBondio metelig ac adeiledd metelau

Mae mathau gwahanol o adeileddau yn digwydd o ganlyniad i fondio, gan effeithio ar briodweddau deunyddiau pob dydd.

Part of CemegBondio, adeiledd a phriodweddau

Bondio metelig ac adeiledd metelau

Metelau

Mae'r rhan fwyaf o fetelau’n hydrin – hynny yw, mae modd eu plygu a’u siapio nhw heb iddyn nhw dorri. Mae hyn am eu bod nhw wedi’u gwneud o haenau o ïonau sy’n gallu llithro dros ei gilydd pan mae’r metel yn cael ei blygu, ei forthwylio neu ei wasgu. Gan fod yr ïonau’n llithro dros ei gilydd, mae metelau’n hydwyth – hynny yw, mae modd eu tynnu nhw’n wifrau – sy’n eu gwneud nhw’n addas ar gyfer ceblau trydan.

Bondiau metelig

Mae metelau’n ffurfio adeileddau enfawr lle mae’r ym mhlisg allanol yr atomau metel yn rhydd i symud. Y grym atyniad rhwng yr electronau rhydd () hyn a’r metel positif sy’n gwneud y bond metelig. Mae bondiau metelig yn gryf, felly mae metelau’n gallu cynnal adeiledd rheolaidd ac fel arfer mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau a berwbwyntiau uchel.

Electronau dadleoledig yn symud yn rhydd ymysg arae o atomau metel wedi'u pecynnu'n dynn.

Mae metelau’n da ar gyfer trydan a gwres. Mae hyn oherwydd bod yr electronau dadleoledig yn gallu symud drwy’r metel i gyd.

[Haen uwch yn unig]

Y mwyaf yw nifer yr electronau allanol yn y metel, yr uchaf yw ei ymdoddbwynt/berwbwynt. Mae hyn oherwydd bod mwy o wefr bositif ar yr ïon metel a nifer mwy o electronau wedi’u dadleoli, sy’n gwneud y bondio’n gryfach.

Diagram yn dangos po fwyaf yr electronau allanol sydd gan fetel, yr uchaf ydy’r toddbwynt/berwbwynt. Mae Sodiwm (Grŵp 1) ar y gwaelod ac mae Alwminiwm (Grŵp 3) ar y top.
Trending Now