Rhydocs i echdynnu haearn a metelau trosiannolY metelau trosiannol

Mae adweithiau rhydocs yn digwydd wrth echdynnu metelau o’u mwynau, er enghraifft echdynnu haearn drwy ei rydwytho yn y ffwrnais chwyth. Mae gan y metelau trosiannol ymdoddbwyntiau a dwyseddau uchel, maen nhw’n ffurfio cyfansoddion lliw ac maen nhw’n gweithredu fel catalyddion.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Y metelau trosiannol

Y metelau trosiannol yw’r elfennau yn rhan ganol y tabl cyfnodol.

Tabl cyfnodol yn amlygu'r metelau trosiannol.

Mae’r metelau trosiannol yn rhannu’r priodweddau canlynol.

  • Maen nhw’n ffurfio cyfansoddion lliw.
  • Maen nhw’n dargludo gwres a thrydan yn dda.
  • Maen nhw’n hydrin, hynny yw hawdd eu morthwylio neu eu plygu i mewn i siâp.
  • Maen nhw’n llai adweithiol na’r metelau alcali, fel sodiwm.
  • Mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau uchel – ond mae mercwri yn hylif ar dymheredd ystafell.
  • Maen nhw fel arfer yn galed a gwydn.
  • Fel arfer, mae ganddyn nhw ddwysedd uchel.
  • Maen nhw’n gallu ffurfio ïonau â gwahanol wefrau. Er enghraifft, mae haearn yn gallu colli dau electron i ffurfio ïonau Fe2+ neu mae’n gallu colli tri electron i ffurfio ïonau Fe3+. Enghraifft arall yw Cu+ a Cu2+.
Trending Now