Rhydocs i echdynnu haearn a metelau trosiannolProfi am ïonau’r metelau trosiannol [Uwch]

Mae adweithiau rhydocs yn digwydd wrth echdynnu metelau o’u mwynau, er enghraifft echdynnu haearn drwy ei rydwytho yn y ffwrnais chwyth. Mae gan y metelau trosiannol ymdoddbwyntiau a dwyseddau uchel, maen nhw’n ffurfio cyfansoddion lliw ac maen nhw’n gweithredu fel catalyddion.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Profi am ïonau’r metelau trosiannol [Haen uwch yn unig]

Yn aml, mae gan hydoddiannau sy’n cynnwys ïonau’r metelau trosiannol liwiau nodweddiadol. Mae disgwyl i ti wybod lliwiau hydoddiannau sy’n cynnwys yr ïonau canlynol:

Fe2+(dyfr) → hydoddiant gwyrdd golau

Fe3+(dyfr) → hydoddiant brown

Cu2+(dyfr) → hydoddiant glas

[TGAU Cemeg yn unig]

Y prawf am bresenoldeb ïonau Fe2+, ïonau Fe3+ ac ïonau Cu2+ yw ychwanegu sodiwm hydrocsid gwanedig at hydoddiant o bob ïon i ffurfio gwaddod o’r metel hydrocsid.

Fe2+(dyfr) + 2OH(dyfr) → Fe(OH)2(s) (gwaddod gwyrdd tywyll/budr)

Fe3+(dyfr) + 2OH(dyfr) → Fe(OH)3(s) (gwaddod oren/brown)

Cu2+(dyfr) + 2OH(dyfr) → Cu(OH)2(s) (gwaddod glas)

Trending Now