Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945Aneurin Bevan a sefydlu’r GIG

Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Aneurin Bevan a sefydlu’r GIG

Roedd Adroddiad Beveridge yn ymdrin â’r angen i sefydlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Byddai hynny yn darparu ystod eang o wasanaethau meddygol am ddim yn cynnwys gwasanaethau meddygon, gofal deintyddol, gwasanaethau ysbyty a gwasanaethau mamolaeth. Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.

Telir am y GIG yn rhannol o gyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol pobl ac yn rhannol o drethi pobl. Aneurin Bevan gyflwynodd y diwygiad yma.

Aneurin Bevan yn gwenu ac yn ysgwyd llaw claf benywaidd mewn gwely mewn ysbyty.
Image caption,
Aneurin Bevan yn ymweld ag ysbyty newydd, 1948

A oedd y GIG yn llwyddiant neu’n fethiant ar y cychwyn?

Llwyddiant

  • Roedd yn boblogaidd ymysg y rhai oedd yn awyddus i osgoi biliau meddygol.
  • Disgynnodd cyfraddau clefydau heintus megis twbercwlosis.
  • Rhwng 1931 a 1961, bu cynnydd o 10 mlynedd yn nisgwyliad oes dynion a merched.
  • Cymrodd y ddeddf 1,771 o ysbytai awdurdodau lleol a 1,334 o ysbytai gwirfoddol i feddiant cyhoeddus gwladol.
  • Erbyn Medi 1948, roedd 39,500,000 o bobl wedi cofrestru i’r GIG ac roedd dros 200,000 o feddygon teulu (tua 90 y cant) wedi eu cofrestru.

Methiant

  • Nid oedd yn cael cefnogaeth yr holl feddygon, ac roedd llawer yn dymuno parhau mewn practisau meddygol preifat. Ar y cychwyn pleidleisiodd y BMA yn erbyn y GIG, ac roedd raid i Bevan addasu’r ddeddf er mwyn caniatáu iddyn nhw barhau i weithio’n breifat er mwyn ennill eu cefnogaeth.
  • Roedd yn gostus iawn - yn ei flwyddyn gyntaf costiodd y GIG dros £500 miliwn i’w sefydlu. Roedd yn costio £248 miliwn i’w gynnal, a oedd yn £140 miliwn yn fwy na’r disgwyl. Cafodd y £2 filiwn a glustnodwyd ar gyfer darparu sbectolau GIG am ddim yn ystod y flwyddyn gyntaf ei wario o fewn wythnosau, oherwydd rhoddwyd dros 5 miliwn o sbectolau yn ystod y flwyddyn gyntaf.
  • Yn 1951, roedd raid i’r Llywodraeth Lafur godi ychydig o dâl am wasanaeth deintyddol oherwydd y costau.
  • Fe wnaeth y Llywodraeth amcangyfrif y byddai galw am tua 140 miliwn o bresgripsiynau. Cynyddodd y niferoedd o bresgripsiynau bob blwyddyn nes iddo gyrraedd 229 miliwn yn 1951. Rhoddodd hyn bwysau mawr ar broblemau economaidd y wlad.
Trending Now