Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945Gwladoli’r diwydiannau allweddol

Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Gwladoli’r diwydiannau allweddol

Gwladoli oedd syniad y Blaid Lafur o roi rheolaeth am y prif ddiwydiannau yn nwylo’r bobl yn hytrach na grŵp bychan o randdeiliaid.

Dau ddyn, un yn gwisgo helmed glöwr, yn edrych ar boster â’r geiriau; This colliery is now managed by the National Coal Board on behalf of the people .
Image caption,
Gwladoli’r diwydiant glo, Ionawr 1947

Roedd hyn yn apelio i gymaint o weithwyr oedd yn teimlo bod gan y perchnogion blaenorol, megis perchnogion glofeydd, fwy o ddiddordeb mewn elw na buddiannau eu gweithwyr. Cafodd 850 o berchnogion pyllau glo iawndal o £164 miliwn rhyngddyn nhw ac ar draws pob diwydiant talwyd iawndal o £2,700 miliwn.

Rhesymau Llafur dros wladoli oedd:

  • cynyddu effeithlonrwydd yn y diwydiannau allweddol a helpu eu moderneiddio
  • gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi
  • gwella statws gweithwyr a gwella amodau gwaith
  • rhoi blaenoriaeth i weithwyr a defnyddwyr yn hytrach nag elw
Diwydiannau a wladolwyd gan y blaid Lafur (1945-50) – Diwydiant glo (1947) Trydan (1947) Rheilffyrdd (1948) Diwydiant haearn a dur (1949).

A oedd gwladoli yn llwyddiant neu’n fethiant?

Llwyddiant

  • Roedd 1 o bob 10 o bobl Prydain yn gweithio yn y diwydiannau gwladoledig yma.
  • Cynyddodd allbwn mewn nifer o ddiwydiannau, er enghraifft glo.
  • Roedd amodau gwaith yn y diwydiant glo wedi gwella wrth i weithwyr elwa o dâl gwyliau a thâl salwch.
  • Roedd rheilffyrdd yn cysylltu mwy o ardaloedd anghysbell gyda’i gilydd. Ni fyddai hyn yn ddeniadol i gwmnïau preifat oherwydd nad oedd yn creu elw, ac mae’n debyg y bydden nhw wedi osgoi gwneud hynny.
  • Cafodd mwy o ardaloedd cefn gwlad eu trydaneiddio o dan y berchnogaeth newydd.

Methiant

  • Talodd y Llywodraeth £2700 miliwn o iawndal i’r diwydiannau blaenorol.
  • Roedd y Ceidwadwyr yn feirniadol o’r holl broses gan ddweud bod gan y llywodraeth ganolog ormod o reolaeth.
  • Roedd nifer o bobl yn credu bod y broses yn rhoi cymorth artiffisial i ddiwydiannau oedd yn dirywio.
Trending Now