Dŵr caled a meddal
Mae’r dŵr mewn rhai rhannau o’r wlad yn feddal, ac mae’r dŵr mewn rhannau eraill o’r wlad yn galed.
Mae dŵr caled yn cynnwys ïonGronyn sy’n cael ei wefru’n drydanol, sy’n cael ei ffurfio pan mae moleciwl neu atom yn ennill neu'n colli electron(au). magnesiwm (Mg2+) ac ïonau calsiwm (Ca2+) wedi hydoddi, sy’n gallu mynd i’r dŵr wrth iddo ddod i gysylltiad â chalchfaen a chreigiau eraill sy’n cynnwys cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. calsiwm. Mae hyn yn gallu digwydd, er enghraifft, wrth i ddŵr glaw lifo dros greigiau ar ei ffordd i mewn i gronfa ddŵr.
Caledwch dros dro
Rydyn ni’n cael gwared â chaledwch dros dro drwy ferwi’r dŵr. Mae berwi dŵr caled dros dro yn ffurfio haen o calchGweddill solid caled sy’n ffurfio wrth gynhesu neu ferwi dŵr caled.. Mae hwn yn gallu gorchuddio’r elfen wresogi mewn tegellau a heyrn smwddio, er enghraifft, gan eu gwneud nhw’n llai effeithlon. Mae calchgen yn hyll ac mae’n gallu tagu pibellau dŵr poeth a boeleri.

[Haen uwch yn unig]
Calsiwm hydrogencarbonad, Ca(HCO3)2, wedi hydoddi sy’n achosi caledwch dros dro.
Mae dŵr glaw yn naturiol asidigpH is na 7. oherwydd mae’n cynnwys carbon deuocsid wedi hydoddi o’r aer. Mae’n adweithio â chalsiwm carbonad mewn creigiau i ffurfio calsiwm hydrogencarbonad (sy’n hydawdd):
calsiwm carbonad + dŵr + carbon deuocsid → calsiwm hydrogencarbonad
CaCO3(s) + H2O(h) + CO2(n) → Ca(HCO3)2(dyfr)
Pan mae dŵr caled dros dro’n cael ei ferwi, mae’r calsiwm hydrogencarbonad hydawdd yn dadelfennu (torri i lawr) i ffurfio calsiwm carbonad (sy’n anhydawdd), dŵr a charbon deuocsid:
calsiwm hydrogencarbonad → calsiwm carbonad + dŵr + carbon deuocsid
Ca(HCO3)2(dyfr) → CaCO3(s) + H2O(h) + CO2(n)
Y calsiwm carbonad anhydawdd sy’n ffurfio’r calch.
Caledwch parhaol
Calsiwm sylffad (CaSO4) wedi hydoddi sy’n achosi caledwch parhaol. Dydy hwn ddim yn dadelfennu (torri i lawr) wrth gael ei wresogi.
Felly, yn wahanol i galedwch dros dro, allwn ni ddim cael gwared â chaledwch parhaol drwy ferwi’r dŵr.
Manteision ac anfanteision dŵr caled
Manteision
- Mae’n well gan rai pobl y blas.
- Mae calsiwm yn cryfhau dannedd ac esgyrn plant.
- Helpu i leihau clefyd y galon.
- Mae’n well gan rai bragwyr a phobyddion ddŵr caled.
Anfanteision
- Anodd ffurfio trochion gyda sebon.
- Mae llysnafedd yn ffurfio ac yn gwastraffu sebon.
- Mae calchgen yn ffurfio mewn offer fel tegellau a pheiriannau golchi dillad a llestri - mae hyn yn arafu prosesau trosglwyddo gwres, gan eu gwneud nhw’n llai effeithlon.
- Mae pibellau dŵr poeth yn mynd yn ‘flewog’ ac yn gallu cael eu blocio.