Mesur caledwch
Mae dŵr meddalDŵr sy’n cynnwys ychydig iawn o ïonau calsiwm neu ïonau magnesiwm, neu ddim o gwbl. Mae dŵr meddal yn creu trochion sebon yn hawdd iawn. yn ffurfio trochion da wrth gael ei gymysgu â sebon, ond dydy dŵr caledDŵr sy’n cynnwys ïonau magnesiwm a chalsiwm, sy’n adweithio â sebon. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd cynhyrchu trochion ac mae ‘llysnafedd’ yn ffurfio. ddim. Mae dŵr caled a dŵr meddal yn ffurfio trochion da gyda glanedyddion sydd ddim yn sebon, fel hylif golchi llestri.
Dyma sut i ymchwilio i galedwch dŵr:
- Rhoi cyfaint hysbys o ddŵr mewn tiwb berwi.
- Ychwanegu hydoddiant sebon, un diferyn ar y tro, ac ysgwyd y cymysgedd am 10 eiliad.
- Cofnodi nifer y diferion sebon sydd eu hangen i wneud trochion. Y nifer mwyaf o ddiferion sydd eu hangen i wneud trochion sy’n aros, y caletaf yw’r dŵr.
- Berwi'r dŵr i wahanu'r samplau dŵr caled dros dro oddi wrth y samplau dŵr caled parhaol.
- Ailadrodd cam dau a cham tri gyda'r samplau wedi'u berwi.
Canlyniadau nodweddiadol
| Sampl dŵr | Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | Casgliad |
| A | 2 | 2 | Dŵr meddal |
| B | 15 | 2 | Dŵr caled dros dro |
| C | 15 | 15 | Dŵr caled parhaol |
| Ch | 15 | 10 | Cymysgedd o ddŵr caled dros dro a pharhaol |
| Sampl dŵr | A |
|---|---|
| Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | 2 |
| Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | 2 |
| Casgliad | Dŵr meddal |
| Sampl dŵr | B |
|---|---|
| Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | 15 |
| Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | 2 |
| Casgliad | Dŵr caled dros dro |
| Sampl dŵr | C |
|---|---|
| Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | 15 |
| Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | 15 |
| Casgliad | Dŵr caled parhaol |
| Sampl dŵr | Ch |
|---|---|
| Cyfaint y sebon cyn ei ferwi (cm3) | 15 |
| Cyfaint y sebon ar ôl ei ferwi (cm3) | 10 |
| Casgliad | Cymysgedd o ddŵr caled dros dro a pharhaol |