Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Titradu a chyfrifiadauCyfrifo molau mewn hydoddiannau: Haen Uwch - Cemeg

Rydyn ni’n defnyddio dull titradu i baratoi halwynau os yw’r adweithyddion yn hydawdd. Gallwn ni ddefnyddio titradiadau i gyfrifo crynodiad a chyfaint adweithyddion.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Cyfrifo molau mewn hydoddiannau [Haen uwch - Cemeg yn unig]

Cyfrifiadau crynodiad

Galli di gyfrifo maint sylwedd mewn mewn hydoddiant os wyt ti’n gwybod y cyfaint a’r crynodiad. Galli di hefyd gyfrifo crynodiad asid sy’n adweithio ag alcali, neu i’r gwrthwyneb.

Mae’r hafaliad hwn yn cysylltu crynodiad, swm o a chyfaint :

Crynodiad mewn mol/dm3 = swm mewn mol ÷ cyfaint mewn dm3

Gallwn ni ad-drefnu’r hafaliad hwn i ganfod swm o hydoddyn neu gyfaint hydoddiant.

Mae angen rhannu cyfaint mewn cm3 â 1,000 i’w drawsnewid yn gyfaint mewn dm3.

Triongl cyfrifo ag 'n (mol)' yn y rhan uchaf a 'crynodiad (mol/dm3)' a 'cyfaint (dm3)' yn y gwaelod.

Cyfrifo crynodiad

Question

Mae 0.5 mol o hydoddyn wedi’i hydoddi mewn 250 cm3 o hydoddiant. Cyfrifa ei grynodiad.

Cyfrifo swm o hydoddyn

Ad-drefnu’r hafaliad: swm = crynodiad × cyfaint

Question

Cyfrifa swm yr hydoddyn sydd wedi hydoddi mewn 2 dm3 o hydoddiant 0.1 mol/dm3.

Cyfrifo cyfaint

Ad-drefnu’r hafaliad: cyfaint = swm ÷ crynodiad

Question

Cyfrifa gyfaint hydoddiant 2 mol/dm3 sy’n cynnwys 0.5 mol o hydoddyn.

Gallwn ni hefyd fynegi crynodiadau mewn gramau y decimetr ciwb (g/dm3). I drawsnewid rhwng y ddwy uned crynodiad, mae angen defnyddio’r màs fformiwla cymharol (Mr).

Lluosi â Mr i drawsnewid mol/dm3 yn g/dm3. Rhannu â Mr i drawsnewid g/dm3 yn mol/dm3.
Trending Now