Effaith gymdeithasol ac amgylcheddolPryderon ynghylch TGCh

Erbyn hyn mae TGCh yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ac mae wedi newid patrymau gweithio. Mae gan TGCh fanteision ac anfanteision.

Part of TGChEffaith gymdeithasol ac amgylcheddol

Pryderon ynghylch TGCh

Sgiliau TG yn cael eu hystyried yn hanfodol

Erbyn hyn mae sgiliau TG yn cael eu hystyried yn hanfodol yn y farchnad gyflogaeth. Gall pobl sydd â’r sgiliau hyn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd tra bydd pobl sydd heb sgiliau o’r fath yn ei chael hi’n anodd i gael gwaith. Mae hyn yn creu cymdeithas ranedig – rhai sydd â sgiliau TG a rhai sydd heb sgiliau TG.

Mwy o ddibyniaeth ar TG

Beth sy’n digwydd os bydd cyfrifiadur ddim yn gweithio? Rydyn ni wedi mynd mor ddibynnol ar TG yn ein ffyrdd o fyw nes ein bod yn methu byw hebddi. Gallai busnesau golli llawer o arian os na fydd eu systemau TG yn gweithio. Er mwyn osgoi hyn, mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddyn nhw gael system gyfrifiadurol , neu efallai ddwy system wrth gefn.

Trending Now