Effaith gymdeithasol ac amgylcheddolFideo-gynadledda

Erbyn hyn mae TGCh yn cael ei hystyried yn sgil hanfodol ac mae wedi newid patrymau gweithio. Mae gan TGCh fanteision ac anfanteision.

Part of TGChEffaith gymdeithasol ac amgylcheddol

Fideo-gynadledda

Mae fideo-gynadledda yn golygu defnyddio cyfrifiaduron i ddarparu cyswllt fideo rhwng dau neu fwy o bobl. Yn lle siarad gyda phobl dros y ffôn, mae’n bosibl eu gweld nhw hefyd.

Cyfarpar

Cymeriadau yn cymryd rhan mewn fideo-gynhadledd.

Mae angen y canlynol er mwyn cymryd rhan mewn galwad fideo-gynadledda:

  • cyfrifiadur
  • gwe-gamera
  • microffon (mae’r rhan fwyaf o we-gamerâu yn cynnwys microffon)
  • seinyddion
  • mynediad i
  • fideo-gynadledda

Mae’n bosibl prynu peiriant fideo-gynadledda arbennig ar gyfer y diben hwn.

Manteision fideo-gynadledda

  • Mae’n bosibl cynnal cyfarfodydd heb adael y swyddfa.
  • Mae’n bosibl lleihau costau teithio a’r amser y mae’n ei gymryd i deithio.
  • Mae’n bosibl galw cyfarfodydd ar unwaith ar gyfer pobl ym mhob cwr o’r byd heb lawer o rybudd.
  • Gall cynrychiolwyr gymryd rhan mewn cyfarfodydd hyd yn oed os nad ydynt yn gallu bod yno’n bersonol.

Anfanteision fideo-gynadledda

  • Efallai nad yw mor gynhyrchiol â thrafodaeth o gwmpas y bwrdd.
  • Efallai y bydd angen i ddogfennau cyfrinachol gael eu gweld a’u llofnodi’n bersonol.
  • Bydd adegau bob amser pan mae angen i bobl gyfarfod wyneb yn wyneb.
Trending Now