Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Pwerau ac israddauPwerau

Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.

Part of MathemategPwerau ac israddau

Pwerau

Mae \({9}\) yn rhif sgwâr.

Sgwâr o 9 sgwâr

\({3}\times{3} = {9}\)

Gallwn ni ysgrifennu \({3}\times{3}\) hefyd fel \({3}^{2}\), sef “\({3}\) wedi ei sgwario”.

Ciwb

Mae \({8}\) yn rhif ciwb.

Ciwb o 8 bloc

\({2}\times{2}\times{2} = {8}\)

Gallwn ni ysgrifennu \({2}\times{2}\times{2}\) hefyd fel \({2}^{3}\), sef “\({2}\) wedi ei giwbio”.

Ffurf indecs

Ffurf indecs ydy’r term am y nodiant \({3}^{2}\) a \({2}^{3}\). Enw’r digid bach ydy’r rhif indecs neu’r pŵer.

Rwyt ti wedi gweld eisoes bod \({3}^{2} = {3}\times{3} = {9}\), a bod \({2}^{3} = {2}\times{2}\times{2} = {8}\).

Yn yr un modd, mae \({5}^{4}\) (pump i bŵer \({4}\)) \(= {5}\times{5}\times{5}\times{5} = {625}\)

ac mae \({3}^{5}\) (tri i bŵer \({5}\)) \(= {3}\times{3}\times{3}\times{3}\times{3} = {243}\).

Mae’r rhif indecs yn dweud wrthot ti sawl gwaith i luosi’r rhif â’i hun.

Pan fo’r rhif indecs yn fwy na thri rydyn ni’n dweud ei fod wedi ei luosi 'i bŵer'.

Er enghraifft:

\({7}^{2}\) ydy 'saith wedi ei sgwario',

\({3}^{3}\) ydy 'tri wedi ei giwbio',

\({3}^{7}\) ydy 'tri i bŵer saith',

\({4}^{5}\) ydy 'pedwar i bŵer pump'.

Question

Edrycha ar y tabl a chyfrifa'r atebion. Mae’r cyntaf wedi ei wneud i ti.

Tabl i gyfrifo ffurf indecs

Trending Now