Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Pwerau ac israddauAil isradd a thrydydd isradd

Dangosir pwerau sgwario, ciwbio ac uwch gan ddigidau bach a elwir yn indecsau. Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd, a’r gwrthwyneb i giwbio ydy canfod y trydydd isradd.

Part of MathemategPwerau ac israddau

Ail isradd a thrydydd isradd

Ail isradd

Y gwrthwyneb i sgwario rhif ydy canfod yr ail isradd.

Diagram i ddangos yr ail isradd

Ail isradd \({16}\) ydy \({4}\) (achos \({4}^{2} = {4}\times{4} = {16}\)).

Ail isradd \({25}\) ydy \({5}\) (achos \({5}^{2} = {5}\times{5} = {25}\)).

Ail isradd \({100}\) ydy \({10}\) (achos \({10}^{2} = {10}\times{10} = {100}\)).

Question

Beth ydy ail isradd \({4}\)?

Ystyr y symbol \(\sqrt{}\) ydy ail isradd, felly

Ystyr \(\sqrt{36}\) ydy 'ail isradd \({36}\)', ac

Ystyr \(\sqrt{81}\) ydy 'ail isradd \({81}\)'.

Fe weli di fotwm ail isradd ar dy gyfrifiannell hefyd.

Trydydd isradd

Y gwrthwyneb i giwbio rhif ydy canfod y trydydd isradd.

Diagram i ddangos y trydydd isradd

Ystyr y symbol \(\sqrt[3]{}\) ydy trydydd isradd, felly

\(\sqrt[3]{27}\) ydy \({3}\) (achos \({3}\times{3}\times{3} = {27}\)).

\(\sqrt[3]{1000}\) ydy \({10}\) (achos \({10}\times{10}\times{10} = {1,000}\)).

Question

Beth ydy trydydd isradd \({8}\)?

Trending Now