Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfrifiadau pellach [Haen uwch yn unig]Fformiwlâu empirig

Technegau cyfrifo ar gyfer yr haen uwch i ganfod fformiwlâu empirig a moleciwlaidd sylwedd, masau sylwedd gofynnol mewn adwaith a chyfrifiadau’n ymwneud â molau.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Fformiwlâu empirig

Fformiwla empirig yw’r gymhareb rhifau cyfan symlaf o’r o bob yn y cyfansoddyn.

Rydyn ni’n ei ganfod drwy ddefnyddio data o arbrofion, felly mae’n empirig.

Er enghraifft, fformiwla foleciwlaidd glwcos yw C6H12O6 ond y fformiwla empirig yw CH2O. Mae hyn oherwydd ein bod ni’n gallu rhannu pob rhif yn C6H12O6 â 6 i wneud cymhareb rhifau cyfan symlach.

Ar y llaw arall, gallai cyfansoddyn â’r fformiwla empirig CH2 fod â fformiwla foleciwlaidd o C2H4, C3H6, C4H8 neu hyd yn oed C13H26.

Galli di ddefnyddio gwybodaeth am y sy’n adweithio i gyfrifo fformiwla cyfansoddyn.

Enghraifft

Mae 3.2 g o sylffwr yn adweithio ag ocsigen i gynhyrchu 6.4 g o sylffwr ocsid. Beth yw fformiwla’r ocsid?

I wneud y cyfrifiad, bydd angen i ti ddefnyddio’r ffaith bod Ar (màs atom cymharol) sylffwr, S = 32, ac Ar ocsigen, O = 16.

CamGweithredCanlyniad
UnYsgrifennu symbolau’r elfennauSO
DauYsgrifennu’r masau3.2 g6.4 g – 3.2 g = 3.2 g
TriYsgrifennu’r gwerthoedd Ar3216
PedwarRhannu’r masau ag Ar3.2 ÷ 32 = 0.13.2 ÷ 16 = 0.2
PumpRhannu â’r rhif lleiaf0.1 ÷ 0.1 = 10.2 ÷ 0.1 = 2
ChwechYsgrifennu’r fformiwlaSO2
CamUn
GweithredYsgrifennu symbolau’r elfennau
CanlyniadS
O
CamDau
GweithredYsgrifennu’r masau
Canlyniad3.2 g
6.4 g – 3.2 g = 3.2 g
CamTri
GweithredYsgrifennu’r gwerthoedd Ar
Canlyniad32
16
CamPedwar
GweithredRhannu’r masau ag Ar
Canlyniad3.2 ÷ 32 = 0.1
3.2 ÷ 16 = 0.2
CamPump
GweithredRhannu â’r rhif lleiaf
Canlyniad0.1 ÷ 0.1 = 1
0.2 ÷ 0.1 = 2
CamChwech
GweithredYsgrifennu’r fformiwla
CanlyniadSO2

Mae gweithred cam pump fel arfer yn rhoi’r gymhareb rhifau cyfan symlaf ar unwaith. Weithiau, fydd hyn ddim yn digwydd – efallai y byddi di’n cael 1 ac 1.5. Yn yr enghraifft hon, byddet ti’n lluosi’r ddau rif â 2, i roi 2 a 3 (yn lle talgrynnu 1.5 i fyny i 2).

Trawsnewid y fformiwla empirig yn fformiwla foleciwlaidd

O’r fformiwla empirig, galli di gyfrifo’r fformiwla foleciwlaidd os wyt ti’n gwybod (Mr) y cyfansoddyn.

Adio masau atomig yr atomau yn y fformiwla empirig.

Er enghraifft, fformiwla empirig hydrocarbon yw CH2 a’i Mr yw 42.

  • màs yr atomau yn y fformiwla empirig yw 14
  • 42 ÷ 14 = 3
  • felly mae angen i ti luosi’r rhifau yn y fformiwla empirig â 3

Felly, fformiwla foleciwlaidd yr hydrocarbon yw C3H6.

Trending Now