Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfrifiadau pellach [Haen uwch yn unig]Cyfrifo masau sy’n adweithio

Technegau cyfrifo ar gyfer yr haen uwch i ganfod fformiwlâu empirig a moleciwlaidd sylwedd, masau sylwedd gofynnol mewn adwaith a chyfrifiadau’n ymwneud â molau.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cyfrifo masau sy’n adweithio

Os wyt ti’n gwybod a , galli di ddefnyddio i gyfrifo masau sy’n adweithio a masau cynhyrchion.

Enghraifft un – màs adweithydd

Question

Pan mae 12 g o garbon yn llosgi mewn aer, mae’n cynhyrchu 44 g o garbon deuocsid. Pa fàs o garbon sydd ei angen i gynhyrchu 11 g o garbon deuocsid?

Enghraifft dau – màs cynnyrch

Question

Pan mae 5.0 g o galsiwm carbonad yn cael ei drwy ei wresogi, mae’n cynhyrchu 2.2 g o garbon deuocsid. Pa fàs o galsiwm carbonad sydd ei angen i gynhyrchu 8.8 g o garbon deuocsid?

Rhagor o gyfrifiadau masau sy’n adweithio

Gallwn ni ddefnyddio’r hafaliad cytbwys i gyfrifo màs cynnyrch neu adweithydd. Dilyna'r camau hyn.

  1. Ysgrifennu’r hafaliad symbolau cytbwys. Tanlinellu’r ddau sylwedd o ddiddordeb.
  2. Ysgrifennu màs sylwedd sydd wedi’i roi o dan ei fformiwla.
  3. Cyfrifo cyfanswm masau fformiwla cymharol (Mr) pob sylwedd (yr un rwyt ti’n ei wybod a’r un rwyt ti’n ceisio ei ddarganfod). Ysgrifennu’r rhain o dan eu fformiwlâu.
  4. Cyfrifo: màs anhysbys = (màs hysbys ÷ cyfanswm Mr y sylwedd hysbys) × cyfanswm Mr y sylwedd anhysbys.

Enghraifft wedi’i chyfrifo

Question

Cyfrifa fàs yr haearn (Fe) gallwn ni ei echdynnu o 8 g o Fe2O3 yn yr adwaith â charbon.

Trending Now