Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Metelau alcalïaidd Grŵp 1Grŵp 1 – y metelau alcalïaidd

Mae elfennau Grŵp 1, sef y metelau alcalïaidd, i gyd yn adweithio'n egnïol â dŵr i gynhyrchu hydoddiant alcalïaidd.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Grŵp 1 – y metelau alcalïaidd

Yr enw ar yw’r metelau alcalïaidd. Maen nhw’n mynd yn y golofn fertigol ar ochr chwith y .

Y tabl cyfnodol ag elfennau Grŵp 1 wedi'u hamlygu: lithiwm, sodiwm, potasiwm, rwbidiwm, cesiwm a ffranciwm

Mae elfennau Grŵp 1 i gyd yn iawn. Rhaid eu storio nhw o dan olew i gadw aer a dŵr i ffwrdd. Wrth iddyn nhw adweithio â dŵr, mae elfennau Grŵp 1 yn ffurfio hydrocsidau metel (pH dros 7), a dyna pam rydyn ni’n eu galw nhw’n fetelau alcalïaidd. Hefyd, mae gan y metelau hyn briodweddau ffisegol anarferol i fetelau:

  • mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau isel (yn cynyddu i fyny’r grŵp o 28°C ar gyfer Cs i 180°C ar gyfer Li, er bod ymdoddbwyntiau metelau nodweddiadol yn llawer uwch, fel haearn sy’n toddi ar 1,540°C)
  • maen nhw’n feddal iawn ac felly mae hi’n hawdd eu torri nhw â chyllell
  • mae ganddyn nhw ddwysedd isel (mae Li, Na a K yn arnofio ar ddŵr ac felly mae’n rhaid bod eu dwysedd yn llai nag 1 g/cm3)
Trending Now