Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Metelau alcalïaidd Grŵp 1Adweithiau metelau alcalïaidd ag ocsigen

Mae elfennau Grŵp 1, sef y metelau alcalïaidd, i gyd yn adweithio'n egnïol â dŵr i gynhyrchu hydoddiant alcalïaidd.

Part of CemegAdeiledd atomig a'r tabl cyfnodol

Adweithiau metelau alcalïaidd ag ocsigen

Pan rydyn ni’n torri’r metelau alcalïaidd, maen nhw’n edrych yn llwyd sgleiniog i ddechrau ond maen nhw’n sydyn yn troi’n bŵl a gwyn wrth adweithio ag ocsigen yn yr aer. Tarneisio yw hyn.

Lithiwm

Mae lithiwm yn tarneisio’n araf oherwydd ei adwaith cymharol araf ag ocsigen.

lithiwm + ocsigen → lithiwm ocsid

4Li(s) + O2(n) → 2Li2O(s)

Sodiwm

Mae sodiwm yn tarneisio’n gyflymach na lithiwm, sy’n fwy o dystiolaeth bod sodiwm yn fwy adweithiol na lithiwm.

sodiwm + ocsigen → sodiwm ocsid

4Na(s) + O2(n) → 2Na2O(s)

Potasiwm

Mae potasiwm yn tarneisio mor gyflym, mae’n anodd gweld mai metel sgleiniog yw potasiwm mewn gwirionedd. Mae hyn yn fwy o dystiolaeth bod potasiwm yn fetel mwy adweithiol na lithiwm a sodiwm.

potasiwm + ocsigen → potasiwm ocsid

4K(s) + O2(n) → 2K2O(s)

Hylosgi

Mae’r metelau alcalïaidd hefyd yn gallu cael eu tanio a llosgi. Pan mae unrhyw sylwedd yn llosgi mewn ocsigen, enw’r adwaith yw hylosgiad. Potasiwm (lelog) sy’n llosgi’n fwyaf egnïol ac yna sodiwm (oren-melyn) ac yna lithiwm (coch), fel byddet ti’n ei ddisgwyl.

Trending Now