Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfraddau adweithiauMesur cyfraddau adweithiau

Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.

Part of CemegCyfradd newid cemegol

Mesur cyfraddau adweithiau

Gallwn ni ganfod cyfradd adwaith drwy fesur faint o’r sy’n ffurfio mewn cyfnod penodol. Rydyn ni’n aml yn mesur cynnyrch solid mewn gramau, ac yn aml yn mesur cynnyrch nwyol mewn cm3.

Mae’r cyfnod rydyn ni’n ei ddewis yn gallu dibynnu ar gyfradd yr adwaith. Er enghraifft, gallwn ni ddewis cyfnod o eiliadau ar gyfer adwaith cyflym neu gyfnod o funudau ar gyfer adwaith araf.

Rydyn ni’n aml yn ysgrifennu unedau cyfradd adwaith fel:

  • g/s neu g/mun
  • cm3/s neu cm3/mun

Mae tri phrif ddull o fesur cyfradd:

  • mesur cyfaint y nwy mae adwaith yn ei ryddhau dros amser
  • mesur y golled màs dros amser o adwaith sy’n cynhyrchu nwy
  • mesur faint o olau sy’n mynd drwy gymysgedd adwaith (wrth i waddod ffurfio) dros amser - gallwn ni wneud hyn drwy edrych ar y cymysgedd neu drwy ddefnyddio synhwyrydd golau a chofnodydd data
Trending Now