Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Cyfraddau adweithiauCyfrifo a chymharu cyfraddau

Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.

Part of CemegCyfradd newid cemegol

Cyfrifo a chymharu cyfraddau

Cyfrifo cyfraddau

Mewn arbrawf cyfraddau nodweddiadol, rydyn ni’n mesur neu y yn rheolaidd. Rydyn ni fel arfer yn cofnodi’r canlyniadau mewn tabl addas.

Amser (munudau)Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)
00
134
242
348
450
550
Amser (munudau)0
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)0
Amser (munudau)1
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)34
Amser (munudau)2
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)42
Amser (munudau)3
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)48
Amser (munudau)4
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)50
Amser (munudau)5
Cyfaint y nwy sy’n cael ei gynhyrchu (cm³)50

Mae’r canlyniadau sydd wedi’u cofnodi yma’n dangos bod yr adwaith wedi gorffen ar ôl pedwar munud, oherwydd doedd dim mwy o nwy’n cael ei gynhyrchu ar ôl hynny.

Cyfradd gymedrig yr adwaith = 50 ÷ 4 = 12.5 cm3/mun

Fodd bynnag, roedd y gyfradd yn lleihau yn ystod yr adwaith. Mae’r tabl yn dangos sut roedd hyn yn digwydd.

MunudCyfaint y nwy (cm³)Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)
Cyntaf (0 i 1)34 – 0 = 3434 ÷ 1 = 34
Ail (1 i 2)42 – 34 = 88 ÷ 1 = 8
Trydydd (2 i 3)48 – 42 = 66 ÷ 1 = 6
Pedwerydd (3 i 4)50 – 48 = 22 ÷ 1 = 2
Pumed (4 i 5)50 – 50 = 00 ÷ 1 = 0
MunudCyntaf (0 i 1)
Cyfaint y nwy (cm³)34 – 0 = 34
Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)34 ÷ 1 = 34
MunudAil (1 i 2)
Cyfaint y nwy (cm³)42 – 34 = 8
Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)8 ÷ 1 = 8
MunudTrydydd (2 i 3)
Cyfaint y nwy (cm³)48 – 42 = 6
Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)6 ÷ 1 = 6
MunudPedwerydd (3 i 4)
Cyfaint y nwy (cm³)50 – 48 = 2
Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)2 ÷ 1 = 2
MunudPumed (4 i 5)
Cyfaint y nwy (cm³)50 – 50 = 0
Cyfradd yr adwaith (cm³/mun)0 ÷ 1 = 0

Graffiau

Gallwn ni ddadansoddi cyfradd adwaith drwy blotio graff o swm y cynnyrch yn erbyn amser. Mae’r graff isod yn dangos hyn ar gyfer dau adwaith.

Graff llinell yn dangos sut mae adwaith cyflym yn cynyddu'n serth o sero cyn lefelu'n raddol. I gymharu, mae adwaith araf yn cynyddu'n llai serth ond yn cyrraedd yr un lefel yn y diwedd.

Dyma sut mae llinell graff yr adwaith cyflymach yn wahanol i linell yr adwaith araf:

  • mae’r graddiant yn fwy serth i ddechrau
  • mae’n mynd yn llorweddol yn gynt (sy’n dangos bod cyfradd yr adwaith yn fwy)

[Haen uwch yn unig]

Mae disgwyl i ti allu cyfrifo cyfradd adwaith unrhyw bryd yn ystod adwaith drwy luniadu tangiad i’r gromlin ar yr amser hwnnw ac yna gyfrifo graddiant y tangiad. Mae enghraifft wedi’i dangos isod.

Graff a hafaliad i ddangos sut i gyfrifo cyfradd adwaith unrhyw bryd yn ystod adwaith drwy luniadu tangiad i'r gromlin.
Trending Now