Beth yw drygioni a dioddefaint?
Drygioni
Mae Drygioni yn achosi dioddefaint dynol. Mae dau fath o ddrygioni:
- drygioni moesol – gweithredoedd dynol yr ystyrir eu bod yn foesol ddrwg, ee Hitler yn lladd miliynau o Iddewon yn ystod yr Holocost
- drygioni naturiol – trychinebau naturiol, fel daeargryn neu tsunamiTon fawr ddinistriol sy’n cael ei hachosi gan ddaeargrynfeydd, gweithgaredd folcanig neu dirlithriad o dan y dŵr.
Gall y ddau fath hyn o ddrygioni gydweithio, ee gall drygioni dynol wneud drygioni naturiol yn waeth. Os yw drygioni naturiol, ee sychder a achosir gan ddiffyg glaw, yn achosi i gnydau fethu, gall polisïau llywodraeth waethygu’r prinder bwyd i’r bobl dlotaf (drygioni moesol).
Mae crefyddau’n dysgu gwahanol bethau am wreiddiau drygioni.
- Mae rhai’n credu bod drygioni’n bresennol yn y byd ers y dechreuad ac yn waith grymoedd drwg.
- Mae rhai’n credu bod drygioni’n rhan o creuY weithred o roi bodolaeth i rywbeth. Mewn crefydd, mae hyn yn cyfeirio at Dduw yn creu'r byd. Duw ac y gall fod ganddo bwrpas nad yw bodau dynol yn ei ddeall.
- Mae rhai’n credu mai canlyniad anwybodaeth yw drygioni ac nad oes dechreuad iddo.
- Mae’r rhan fwyaf o grefyddau’n dysgu y dylid gwrthwynebu drygioni moesol. Dylid gwneud ymdrechion i leihau effaith drygioni naturiol.
Dioddefaint
Dioddefaint yw goddef neu fynd drwy boen neu drallod. Mae dioddefaint yn aml yn ganlyniad drygioni.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi dioddefaint ar ryw bryd yn eu bywyd. Mae crefyddau’n ceisio esbonio dioddefaint, helpu pobl i ymdopi ag ef a dysgu oddi wrtho. I rai pobl grefyddol, mae’r ffaith fod pobl yn dioddef yn codi cwestiynau anodd ynghylch pam y mae Duw’n caniatáu i hyn ddigwydd.
Mae rhai pobl yn dweud bod Duw’n caniatáu i fodau dynol wneud penderfyniadau drostynt eu hunain a bod dioddefaint yn cael ei achosi gan y dewisiadau y mae pobl yn eu gwneud.
Cwestiynau sy’n codi oherwydd bodolaeth drygioni a dioddefaint yn y byd
- Beth mae presenoldeb drygioni a dioddefaint yn ei ddweud am gariad, nerth a phwrpas Duw?
- Oes yna bwrpas i ddioddefaint?
- Ai dioddefaint yw’r pris y mae bodau dynol yn ei dalu am ewyllys ryddY gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes unrhyw beth wedi'i ragordeinio.?
- Sut mae gwahanol grefyddau’n ymateb i ddrygioni a dioddefaint?
- Sut mae unigolion yn ymateb i ddrygioni a dioddefaint?
Question
Disgrifiwch sut mae Iddewon yn esbonio bodolaeth drygioni a dioddefaint yn y byd.
Mae Iddewon yn credu bod bodolaeth drygioni a dioddefaint yn y byd yn ganlyniad uniongyrchol penderfyniad Adda ac Efa i anufuddhau i orchymyn Duw yng Ngardd Eden. Maen nhw’n credu nad oedd drygioni’n bodoli yn y byd cyn hynny a bod bodau dynol yn feidrol. Oherwydd bod Adda ac Efa wedi ildio i demtasiwn gan y sarff ac wedi bwyta’r afal, cosbodd Duw fodau dynol drwy gyflwyno drygioni i’r byd.