Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

Daioni, drygioni a dioddefaintYmatebion Iddewig i’r Holocost

Mae gan bob crefydd ei ffordd ei hun o esbonio dioddefaint pobl a'r cysyniad o ddrygioni. Mae llawer o Iddewon yn credu bod drygioni yn tarddu o bechod cyntaf Adda ac Efa yng Ngardd Eden.

Part of Astudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Ymatebion Iddewig i’r Holocost

Mae’r rhan fwyaf o Iddewon yn credu fod popeth y mae Duw’n ei wneud er daioni. O safbwynt dynol, gall rhai gweithredoedd ymddangos yn ddrwg, ond maen nhw’n ymddiried bod beth bynnag sy’n digwydd ar y Ddaear yn cyd-fynd â chynllun Duw, sy’n dda yn y pen draw.

Mae sawl ymateb Iddewig i broblem drygioni a dioddefaint.

  • Mae’r yn dysgu y gall dioddefaint fod yn gosb am bechodau.
  • Mae’r Tenakh yn dysgu y gall dioddefaint fod yn rhan o brawf gan Dduw ar ffydd rhywun er mwyn gweld a wnaiff ddilyn Duw o’i wirfodd. O basio’r prawf caiff ei wobrwyo yn y bywyd hwn neu wedi marwolaeth.
  • Mae Iddewon yn credu y gall dioddefaint ddod â phobl yn agosach at Dduw. Mewn adegau trallodus bydd llawer o bobl yn troi at grefydd am gysur a chefnogaeth.
  • Mae rhai Iddewon yn credu bod dioddefaint yn helpu pobl i deimlo ag eraill a’u helpu pan fo angen.
  • All bodau dynol ddim deall dioddefaint; mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r dioddefaint yr aeth yr Iddewon drwyddo yn ystod yr neu . Ond mae Iddewon yn credu bod rhaid iddyn nhw wneud popeth a allant i oresgyn a lliniaru dioddefaint.

More guides on this topic

Trending Now