Welcome to My Bitesize, let's get you set up!

Add your subjects to find the right study guides, track progress and keep everything in one place.

Add my subjects
My Subjects

MoesoldebGwneud penderfyniadau moesegol

Archwilia beth mae'r Iesu yn ei ddysgu am foesoldeb, gan gynnwys cariad a maddeuant a'r gwahanol ymagweddau at wneud penderfyniadau.

Part of Astudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Gwneud penderfyniadau moesegol

Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod bodau dynol yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, neu os ydyn nhw'n gwneud y peth iawn neu beidio.

Weithiau, ni fydd pobl bob amser yn dewis gwneud y peth iawn, ond mae'r gallu ganddynt i ddeall pan mae rhywbeth yn ddrwg.

Mae gan Gristnogion wahanol gredoau ac agweddau o ran gwneud penderfyniadau . Mae’r rhain yn cynnwys:

  • damcaniaeth gorchymyn dwyfol
  • moesoldeb absoliwt
  • moesoldeb berthynol
  • moeseg sefyllfaol

Agweddau tuag at wneud penderfyniadau

Mae sawl ffordd i ddod i benderfyniad, a phob agwedd ag elfennau cadarnhaol a negyddol.

Mae dwy ddamcaniaeth wahanol:

  • damcaniaeth foesegol, sy'n ystyried a yw'r gweithredoedd eu hunain yn dda neu'n ddrwg
  • damcaniaeth deleologol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau'r gweithredoedd, ac os ydyn nhw'n dda neu'n ddrwg
Trending Now